Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Byrddau Diogelu Cymru wedi cyhoeddi bod yr wythnos sy’n cychwyn ar 14 Tachwedd yn Wythnos Diogelu. Rydyn ni'n croesawu'r cyfle hwn i gydnabod gwaith staff y rheng flaen ac i godi ymwybyddiaeth o'r rôl sydd gan bawb i'w chwarae wrth ddiogelu plant ac oedolion. Bydd yr wythnos yn cynnwys hyfforddiant, gweithdai a chynadleddau i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ar ystod eang o bynciau gan gynnwys gwarchod plant ac oedolion, cam-drin domestig, ymwybyddiaeth o alcohol, camfanteisio’n rhywiol ar blant ac Adolygiadau Ymarfer.

Mae gwarchod pobl sy'n agored i niwed yn gyfrifoldeb ar bawb. Dyma’r egwyddor sy’n ein harwain yng Nghymru wrth i ni gydweithio ag asiantaethau statudol sy'n meddu ar gyfrifoldebau diogelu allweddol, a'r trydydd sector sydd hefyd yn chwarae rhan hollbwysig. Ni chaiff unrhyw fath o gam-drin ei oddef o gwbl. Rhaid i ni sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol yn eu lle i amddiffyn unigolion.

Yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a ddaeth i rym ym mis Ebrill, rydyn ni wedi cryfhau’r trefniadau diogelu a’r dulliau o gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth. Mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a sefydlwyd o dan y Ddeddf, yn gweithio ochr yn ochr â'r Byrddau Diogelu er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r ffordd y maent yn gweithio, hyrwyddo arferion da a chynghori Gweinidogion ar sut y gellir gwella'r gwaith o ddiogelu. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf ym mis Rhagfyr.

Rydyn ni wedi dangos yn gyson ein gallu i weithio gydag asiantaethau datganoledig ac asiantaethau heb eu datganoli i sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl. Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Fynd i'r Afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Mae'n darparu fframwaith cynhwysfawr ac eglur fydd yn galluogi’r amrywiaeth eang o bartneriaid diogelu i weithredu'n gyson ar draws asiantaethau i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin.
Drwy weithio gyda rhanddeiliad rydyn ni wedi sicrhau bod yr unigolion sy'n gweithio ym myd addysg yn cael yr wybodaeth â’r deunyddiau y mae eu hangen arnynt er mwyn cadw disgyblion yn ddiogel.

Mae ysgolion yn rhan annatod o fywyd plentyn ac mae’r staff mewn lle delfrydol i sylwi ar unrhyw bryderon o ran diogelwch ac ymateb iddynt, ar y cyd â'r gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu. Y llynedd, cyhoeddwyd canllawiau statudol newydd gennym – Cadw dysgwyr yn ddiogel – sy'n nodi'n glir y dyletswyddau cyfreithiol ar wasanaethau addysg i greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi cyhoeddi modiwlau e-ddysgu ar lwyfan dysgu Llywodraeth Cymru, Hwb, er mwyn i'r holl staff ym myd addysg allu cryfhau eu trefniadau diogelu.
Rydyn ni wedi gweithio gyda Barnado's Cymru i ddatblygu adnoddau addysgol penodol. Mae ‘Cudd’ yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc yn meddu ar yr wybodaeth a'r hyder i allu cadw eu hunain yn ddiogel. Rydyn ni wedi hyfforddi dros 200 o ymarferwyr amlasiantaeth, a’n bwriad yw sicrhau bod rhagor o gyfleoedd hyfforddi ar gael i wasanaethau addysg yn gynnar yn 2017.

Lansiwyd Operation Net Safe yr wythnos ddiwethaf. Caiff ei redeg gan Heddlu De Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Lucy Faithfull, ac mae'n enghraifft o ymgyrch arloesol i atal unigolion rhag creu, gwylio a rhannu delweddau anweddus o blant ar-lein.

Agorwyd Swyddfa yng Nghymru gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ar 26 Hydref, gan lansio’r Prosiect Gwirionedd yma ar yr un pryd, ac rydym yn croesawu hynny. Gobeithio y bydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi fel bod ganddynt yr hyder i godi eu llais os oes ganddynt brofiad o gael eu cam-drin.

Caiff gwaith rhagorol ei gyflawni ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a byddwn yn parhau i ddatblygu’r agenda hon wrth symud ymlaen.