Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae partneriaeth gymdeithasol gref ac effeithiol yn un o egwyddorion allweddol ffordd y Llywodraeth hon o weithio. O fewn GIG Cymru, gwyddom fod cadw ffocws cryf ar bartneriaeth gymdeithasol yn gwella profiad GIG Cymru o ran ei weithlu ac o ran y rhai sy'n defnyddio ei wasanaethau.
Yn ystod ein brwydr yn erbyn y pandemig Covid-19, mae'r ymrwymiad hwn i bartneriaeth gymdeithasol yn bwysicach nag erioed. Rydym wedi adeiladu ar ein cydberthnasau sefydledig er mwyn ein galluogi i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau fel rhan o'r ymateb Covid-19 gan ddiogelu iechyd diogelwch a lles y gweithlu yr un pryd. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob partner cymdeithasol weithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd newydd, mwy hyblyg ac ymatebol gan gadw ffocws ar ein gwerthoedd craidd ar yr un pryd.
Mae ein hymrwymiad ymarferol i bartneriaeth gymdeithasol wedi'i ddangos ar draws y system. Rwyf yn cyfarfod yn rheolaidd ag undebau llafur a rhanddeiliaid iechyd a gofal. Mae Pwyllgor Busnes Fforwm Partneriaeth Cymru wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol i lywio ein hymateb i Covid-19 a dod o hyd i atebion i faterion a phryderon allweddol o du’r gweithlu. Mae partneriaid cymdeithasol hefyd wedi cymryd rhan mewn briffiadau technegol ar rai o'r agweddau mwyaf heriol ar ein hymateb Covid, megis cyflenwi PPE a datblygu ein gallu i brofi. Cafwyd cyfarfod arbennig hefyd o'r WPF i roi trosolwg eang o'r ymateb i Covid yng Nghymru ar draws ein partneriaid cymdeithasol. Mae sefydliadau'r GIG ledled Cymru hefyd yn defnyddio eu strwythurau partneriaethau cymdeithasol lleol i gefnogi ymateb eu sefydliadau i'r cyfnod eithriadol hwn.
Mae Fforwm Partneriaeth Cymru wedi datblygu Datganiad ar y Cyd ar weithio mewn partneriaeth sy'n ailymrwymo cyflogwyr, undebau llafur a'r Llywodraeth i gynnal partneriaeth gymdeithasol gref ledled Cymru. Rwyf yn falch o groesawu'r datganiad hwn a chymeradwyo ei gynnwys yn llwyr.