Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyd a lled Cymru, mae staff rheng flaen y GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gweithio'n galed – a hynny dan amgylchiadau anodd yn aml – i ddarparu gofal o safon uchel i bobl sydd â’r coronafeirws. Fy mlaenoriaeth i yw gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud eu gwaith yn ddiogel ac yn hyderus.

Rwy'n gwybod bod llawer o staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol wedi mynegi pryderon ynglŷn â chael gafael ar y cyfarpar diogelu personol cywir er mwyn gallu gwneud eu gwaith.

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi dosbarthu mwy na 5 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol o'n stociau ar gyfer pandemig – a hynny ar ben y cyflenwadau arferol a ddelir gan y GIG – er mwyn sicrhau bod gan staff y cyfarpar diogelu sydd ei angen arnynt. Mae cyflenwadau wedi'u dosbarthu i ysbytai, meddygfeydd a fferyllfeydd, a hefyd i’r awdurdodau lleol i’w dosbarthu i leoliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd adolygiad cyflym o'r canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn y DU gan Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol a Public Health England. Cymerodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ran yn yr adolygiad. Heddiw, cyhoeddwyd canllawiau newydd, sy'n berthnasol i’r DU gyfan.

Roedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi cymeradwyo dull y DU o ymdrin â chyfarpar diogelu personol. Mae'r canllawiau newydd hyn yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan Sefydliad Iechyd y Byd ac yn rhoi sicrwydd ychwanegol i staff rheng flaen, gan gydnabod eu pryderon a'u hofnau.

Dyma rai o’r newidiadau allweddol i'r canllawiau:

  • dylai pob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd o fewn 2m i glaf y cadarnhawyd neu yr amheuir bod coronafeirws arno wisgo ffedog, menyg, masg llawfeddygol gwrth-hylif a chyfarpar diogelu’r llygaid
  • bydd rhai mathau o gyfarpar (masgiau, fisorau a gynau) y nodir eu bod  ar gyfer “defnydd untro” ar hyn o bryd yn cael eu nodi’n rhai ar gyfer "defnydd sesiynol" mewn rhai sefyllfaoedd.
  • bydd y defnydd o ynau yn cael ei ehangu, yn enwedig ar gyfer gweithdrefnau sy’n cynhyrchu aerosol

Yn sgil ehangu’r canllawiau, mae heriau newydd yn codi o ran diwallu’r galw ychwanegol am gyfarpar. Mae gwledydd y DU yn gweithio ar ddull gweithredu ar gyfer y pedair gwlad er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cynyddu’r cyflenwadau. Ond, hyd yn oed gyda'r trefniadau newydd hyn, gallai gymryd peth amser cyn bod gennym gadwyn gyflenwi ddibynadwy ar gyfer yr holl gyfarpar sydd ei angen.

Mae'n bwysig nodi mai dim ond ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y mae’r canllawiau yn argymell defnyddio cyfarpar diogelu personol. Mae sectorau eraill, fel casglwyr sbwriel, gweithwyr manwerthu ac athrawon, yn cael eu hystyried yn grwpiau risg isel neu ddim risg. Mae hyn yn golygu bod cadw at y mesurau priodol o ran sicrhau hylendid a chadw pellter cymdeithasol yn cynnig amddiffyniad digonol i'r grwpiau hynny.

Mae’n bwysig hefyd bod y canllawiau’n cael eu dilyn yn briodol a bod y cyfarpar yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r canllawiau newydd. Bydd pob pecyn cyfarpar a ddefnyddir yn ddiangen yn golygu bod llai ar gael i staff rheng flaen sy'n gofalu am glaf neu berson agored i niwed.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gweddill y DU i sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol, gan gynnwys cyflenwad a wneir yng Nghymru.

Gyda’n gilydd, fe wnawn ni barhau i ddiogelu’r staff sydd ar y rheng flaen.