Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o roi crynodeb i chi ar y cynnydd wrth weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion, a lansiwyd gennyf i ar 18 Mai 2017 yn Ysgol Bae Baglan, Port Talbot. Mae'r Fframwaith yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o wasanaethau nyrsio mewn ysgolion yng Nghymru, a'i nod penodol yw datblygu gwasanaeth i blant a phobl ifanc sy'n ddiogel, yn hygyrch ac o safon uchel, gyda dull gweithredu safonol ledled Cymru.

Drwy ganolbwyntio ar anghenion plant, nod y Fframwaith yw datblygu'n rhagweithiol ar raglen Plant Iach Cymru (0-7 oed). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol uwchradd prif ffrwd, ynghyd â'i chlwstwr o ysgolion cynradd sy'n bwydo, gael nyrs ysgol gofrestredig. Mae'n mynnu y bydd y GIG yn darparu'r gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn drwy ddull gofal iechyd darbodus sy'n defnyddio arbenigeddau o'r sgiliau yn y timau sy'n rhan o’r gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion.

Mae byrddau iechyd eisoes wedi cyflawni sawl cydran o'r Fframwaith. Mae hyn yn cynnwys darparu nyrsys ysgol cofrestredig drwy gydol y flwyddyn, gyda nyrs benodedig i bob ysgol uwchradd a'i chlwstwr o ysgolion cynradd sy'n bwydo. Mae’r sgiliau ymysg timau nyrsio mewn ysgolion hefyd wedi datblygu, yn enwedig mewn perthynas â darparu staff penodol i gefnogi gwasanaethau imiwneiddio. Er enghraifft, mae ymgyrch 'y ffliw' yn gallu llenwi llwyth gwaith y nyrs ysgol am y tri mis o'r tymor brechu, gan atal y nyrs rhag gwneud gwaith arall. Mae byrddau iechyd wedi defnyddio arian a'r pwll o sgiliau i oresgyn hyn drwy gyflogi timau imiwneiddio. Drwy hyn, mae'r nyrsys ysgol cofrestredig wedi'u rhyddhau i ymgymryd â'r rolau a amlinellir yn y fframwaith a chynyddu eu hargaeledd i ddisgyblion.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr gwasanaethau'r GIG er mwyn rhoi'r fframwaith ar waith a chynllunio ffyrdd o wella ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd melin drafod i arweinwyr gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion ym mis Hydref er mwyn gweithredu ar faterion megis y pwll o sgiliau, cynllunio'r gweithlu ar gyfer y dyfodol a monitro perfformiad yn erbyn safonau'r Fframwaith newydd. 

Roedd rhai o'r pwysau a nodwyd yn ystod y cyfnod gweithredu yn cynnwys canfod lleoliadau addas ar gyfer cynnal sesiynau galw i mewn yn ystod gwyliau'r ysgol a min nos. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cysylltu arweinwyr nyrsio mewn ysgolion â phartneriaid addysg i gydweithio ar gynlluniau megis 'Bwyd a Hwyl', i sicrhau bod modd gweithredu ar y cyd a chynyddu eu hargaeledd.

Rhwystr arall a nodwyd yw'r angen i hyfforddi mewn perthynas â chymorth iechyd a llesiant emosiynol. Mae cydweithio i gysylltu prosiect peilot Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), addysg a nyrsio mewn ysgolion wedi galluogi y Llywodraeth Cymru i gefnogi cyfleoedd hyfforddi ym maes iechyd ac addysg ar y mater hwn.

Rwy'n credu bod gwasanaeth nyrsio effeithiol mewn ysgolion yn atgyfnerthu plant a phobl ifanc ac yn eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u llesiant. Mae'r gwasanaeth yn rhagweithiol wrth ymyrryd yn gynnar a rhoi cyngor yn ôl yr angen, ac mae plant a phobl ifanc yn ei werthfawrogi ac yn ymddiried ynddo.

Er mwyn sicrhau bod y Fframwaith hwn yn cael ei weithredu'n llawn ledled Cymru, mae’r Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gweithredu a monitro a fydd yn dechrau ar ei waith yn y flwyddyn newydd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu model newydd nyrsio mewn ysgolion i gefnogi plant ag anghenion arbennig. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r gofynion yn y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, os caiff ei ddeddfu, a bydd yn defnyddio dull tîm o amgylch y teulu. Mae'r gwaith hwn yn ategu'r fframwaith nyrsio mewn ysgolion presennol a bydd yn sicrhau bod holl blant Cymru yn y dyfodol yn cael gofal o safon uchel gyson lle bynnag y cânt eu haddysg, a bydd yn cael ei lansio yn dilyn ymgynghoriad yn 2018.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.