Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS
Rwy'n falch bod ein cefnogaeth i Wcráin a'i phobl wedi bod yn ddiwyro, a bydd yn parhau felly.
Rwy'n wirioneddol falch bod Cymru wedi rhoi cefnogaeth lawn i Wcráin, o'r eiliad y cafodd y wlad ei goresgyn yn anghyfreithlon ac yn greulon gan Vladimir Putin. Gadewch imi fod yn glir, does dim modd cyfiawnhau'r ymosodiad ar Wcráin mewn unrhyw ffordd, a rhaid inni sefyll yn gadarn y tu ôl i'r Arlywydd Zelenskyy a'r Wcreiniaid.
Rydym ni yng Nghymru wedi estyn llaw cyfeillgarwch i Wcráin, ac i’w phobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd ymddygiad ymosodol Rwsia. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i helpu'r bobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad.
Mae ein cydsafiad ag Wcráin a'i phobl yn ddiamwys, a rhaid inni barhau i fod yn gefn i'n ffrindiau yno yn ystod y cyfnod anodd hwn.