Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob dydd, gofynnir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud penderfyniadau anodd a allai effeithio ar fywydau. Mae hyn wedi bod yn wir erioed ond, yn ystod pandemig COVID-19, mae'r penderfyniadau hyn yn fwy dwys o lawer.

Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi o amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn ceisio helpu staff i gyflawni eu dyletswyddau a gwneud y penderfyniadau mwyaf priodol mewn cyfnodau o bwysau aruthrol ar y GIG. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19: Cymru ynghyd i gynghori ar faterion yn ymwneud ag ystyriaethau moesol, moesegol, diwylliannol a ffydd, ac i roi cyngor i wasanaethau iechyd er mwyn eu helpu i reoli materion sy'n deillio o'r ymateb argyfwng gofal iechyd i bandemig COVID-19 mewn modd teg a chyfiawn.

Noddir y Grŵp ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Bydd yn rhoi cyngor annibynnol, amserol a chydgysylltiedig mewn perthynas â materion moesol, moesegol a ffydd, gan bwysleisio pwysigrwydd dilyn dull o weithredu sy'n seiliedig ar hawliau a model cymdeithasol anabledd er mwyn gwneud penderfyniadau teg ac effeithiol ym maes gofal iechyd.

Mae gan y Grŵp gynrychiolaeth o gymunedau ledled Cymru y mae COVID-19 yn effeithio arnynt, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu risg o effaith fwy anghymesur yn sgil y pandemig. Mae'n cynnwys cynrychiolaeth o grwpiau ffydd, grwpiau nad ydynt yn rhai ffydd a sefydliadau'r trydydd sector, a bydd yn troi at arbenigedd ychwanegol yn ôl yr angen. Mae'n bosibl y caiff is-grwpiau eu sefydlu i ystyried materion penodol gan ychwanegu aelodau sy'n briodol i bob pwnc.

Mae'r Grŵp wedi cynghori ar ddatganiad o werthoedd ac egwyddorion i GIG Cymru ei ddefnyddio er mwyn llywio penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid a gweddill y DU i adolygu'r meysydd pwysig hyn a sicrhau bod gan y cyhoedd hyder ac ymddiriedaeth yn y penderfyniadau a wneir ar ofal iechyd sydd eu hangen yn y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen.