Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Rwyf am i’r Aelodau gael gwybod y diweddaraf am Brifysgol Cymru.
Fel y gŵyr yr Aelodau, nodais yn fy Natganiad blaenorol ar 17 Tachwedd 2010 fy mod wedi gofyn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) werthuso’r materion yn ymwneud â rheoli ansawdd a godwyd gan raglen Week in Week Out y BBC. Gofynnais i CCAUC roi sicrwydd i mi fod y Brifysgol wrthi’n mynd i’r afael â’r materion hyn mewn modd realistig. Cyfeiriodd fy Natganiad yn ogystal at ohebiaeth â Mr Anthony McLaren, sef Prif Weithredwr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ynghylch eu harolygiadau ansawdd o’r Brifysgol.
Rwy’n cyhoeddi’r llythyrau dilynol yr wyf wedi’u derbyn oddi wrth Gadeirydd CCAUC a Phrif Weithredwr ASA ynghyd â’m hymatebion.
Er bod y Brifysgol wedi cyflawni tipyn o ran ymateb i’r problemau a bennwyd mae’n amlwg nad yw wedi datrys sawl mater. Yn benodol, mae’r Brifysgol yn parhau i ddilysu canolfannau newydd ar gyfer darpariaeth a addysgir er gwaethaf pryderon lu ynghylch y risgiau sydd ynghlwm â model o’r fath. Mae’r ffaith bod ASA wedi lansio ymchwiliad i’r modd y rheolir ansawdd yn Ysgol Fusnes Turning Point yn sgil nifer o gwynion gan fyfyrwyr hefyd yn destun pryder. Mae’n hollbwysig fod y broses o ddilysu a goruchwylio’r ddarpariaeth dramor ym maes addysg uwch yn cynnal y safonau uchaf posibl. Mae methiant i gynnal safonau o’r fath yn peryglu enw da rhyngwladol sefydliadau addysg uwch Cymru.
Gan fod adroddiadau yn parhau ynghylch problemau ansawdd â gwaith tramor Prifysgol Cymru, rwyf wedi gofyn i CCAUC archwilio pa mor ofalus y mae corff llywodraethu’r Brifysgol yn goruchwylio’r materion hyn a’m cynghori fel y bo’n briodol. Rwyf hefyd wedi gofyn i Mr McLaren sicrhau bod yr ASA yn hysbysu swyddogion ynghylch hynt yr arolwg o ymwneud y Brifysgol ag Ysgol Fusnes Turning Point.
Byddai’n cyhoeddi Adroddiad Adolygiad McCormick ynghylch Llywodraethu Addysg Uwch yfory. Mae’r Adolygiad hwn wedi dod i’r casgliad bod angen i’r Brifysgol newid yn sylfaenol er mwyn gallu cyfrannu unrhyw beth i Gymru a’i diwylliant. Nododd yr Adroddiad yn glir fod yn rhaid i newid o’r fath fynd i’r afael ag ansawdd a hefyd ymdrin â chwestiynau ynghylch strwythur y Brifysgol a’i rôl yn y dyfodol o fewn addysg uwch yng Nghymru.
Mae’r cynigion ar gyfer uno sefydliadau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd o dan faner Prifysgol Cymru yn ymgais i ddatrys y materion hyn. Mae’n rhaid i’r cynnig hwn fodloni’r holl ofynion a nodir yn Adolygiad McCormick. Os nad ydyw byddaf yn disgwyl i Brifysgol Cymru gydweithio â CCAUC ac â’m swyddogion er mwyn mabwysiadu un o’r opsiynau eraill a bennwyd yn yr Adroddiad hwnnw.