Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwyf wedi nodi fy uchelgais ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn “Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu” ac yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy’n gwybod bod hwn yn Fil uchelgeisiol, ac rwy’n credu bod hynny’n gwbl angenrheidiol.
Rwyf wedi’i gwneud yn glir fod ein polisi yn canolbwyntio ar lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Mater o roi rheolaeth dros eu bywydau bob dydd i bobl ydyw, a’u cynorthwyo â’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Gyda hynny mewn golwg, mae’r Bil yn rhoi diffiniad o lesiant ar gyfer pobl. Mae hyn wrth wraidd y ffordd rydym yn trawsnewid pethau drwy’r rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru.
Mae llesiant yn thema graidd ym mhob un o’r meysydd portffolio yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae llesiant yn hawl i bawb ac yn gyfrifoldeb i bawb. Mae angen inni weithio gyda’n gilydd ar draws Llywodraeth Cymru, ac ar draws sectorau ac asiantaethau er mwyn hybu llesiant. Mae fy natganiad yn canolbwyntio ar lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Mater o roi llais cryfach i bobl yw hyn, a mwy o reolaeth dros eu bywydau. Mae hefyd yn fater o sicrhau bod pobl y derbyn y gofal a’r cymorth y mae arnyn nhw ei angen i fyw bywydau bodlon.
Pan fyddwn yn sôn am lesiant, rydym hefyd yn sôn am ganlyniadau i bobl. Rwy’n credu bod cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu Fframwaith Canlyniadau cenedlaethol yn hollbwysig, a phan euthum ati i ymgynghori ar y dull o ddarparu’r Fframwaith Canlyniadau, roedd cefnogaeth gref i hyn. Rwy’n hyderus mai dyma’r ffordd y gallwn sicrhau gwell llesiant a mwy o lais a rheolaeth i’r bobl rydym yn ceisio’u helpu. Rwy’n argyhoeddedig y dylid mynd ati’n awr i gyhoeddi’r gwaith a wnaed gyda rhanddeiliaid i ddechrau llunio ein fframwaith canlyniadau. Mae’n dangos cyd-destun ein gweledigaeth o wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn y dyfodol, a hynny mewn ffordd glir a diamwys.
Rydym wedi cynnwys pobl yn y broses o greu’r lefel gyntaf hon o’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol sydd yn fy natganiad ar lesiant. Er bod y farn ynglŷn â’r hyn y dylai’r fframwaith ei gynnwys yn amrywio, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rwy’n falch fod yna lawer iawn o dir cyffredin.
Mae fy swyddogion wedi cysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid wrth iddynt ddatblygu’r fframwaith canlyniadau, ac wedi canolbwyntio a rhoi blaenoriaeth i blant sy’n derbyn gofal yn y lle cyntaf. Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, rydym wedi hoelio’n sylw ar hawliau, yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Rydym wedi datblygu’r datganiad ar lesiant gyda phlant a phobl ifanc, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rwy’n ddiolchgar i holl aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith, nid yn unig yng nghyfarfodydd y grŵp, ond wrth weithio gyda’u hetholwyr y tu allan i’r cyfarfodydd er mwyn datblygu cynigion ar gyfer eu cynnwys yn y fframwaith. Hoffwn ddiolch i’r plant a’r bobl ifanc hynny a gymerodd ran, ac i Voices from Care am hwyluso’r gwaith hwnnw. Hoffwn ddiolch i aelodau fy Mhanel Dinasyddion am gyfrannu at gyfoethogi’r drafodaeth hon. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r NSPCC am bennu cyd-destun y gwaith yn eu cynhadledd fis Hydref diwethaf. Roedd yn bleser mawr gennyf gyflwyno ymgyrch Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Dw i’n Cyfri, Rydyn ni’n Cyfri, a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau ar gyfer pobl. Llwyddwyd i gyrraedd pedair mil o bobl, ac rwy’n falch iawn fod hyn wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r datganiad ar lesiant. Caiff pob un o’r cyfraniadau eu rhannu â’n cydweithwyr yn y portffolios eraill, a byddant yn werthfawr iawn wrth inni barhau i weithio ar fanylion ein dull cyffredinol o roi llais cryfach i bobl a gwella’u llesiant. Hoffwn annog y rheini sydd wedi rhannu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw i gadw mewn cysylltiad wrth inni fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Mae’r datganiad ar lesiant yn adeiladu ar y diffiniadau yn y Bil ac yn mynegi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Byddwn yn parhau i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau, mesurau canlyniadau a’r fframwaith perfformio a fydd yn sylfaen i’r Fframwaith Canlyniadau, yn dilyn hyn.
Bydd gennym wedyn ddull tryloyw o nodi pa ganlyniadau y dylai pobl eu disgwyl, a pha wasanaethau sy’ cyfrannu at sicrhau llesiant. Bydd gennym wybodaeth a fydd yn ein galluogi i ddysgu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim yn gweithio’n dda, i lywio ein polisïau drwy’r wlad, a’n harferion lleol.
Rwyf am rannu â chi’r datganiadau Iefel uchel rydym wedi’u diffinio, drwy ein rhaglen waith. Mae’r rhain yn nodi’n glir yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl, a’r hyn y mae’n rhaid i wasanaethau helpu pobl i’w gyflawni. Byddwn yn disgwyl i’r sector gofal cymdeithasol ddefnyddio’r datganiadau hyn i gynllunio a darparu gwasanaethau gyda defnyddwyr a gofalwyr.
Gobeithio eich bod yn cytuno â mi fod y datganiadau hyn yn crynhoi’r prif elfennau y byddai ar unrhyw un ohonom eu heisiau i ni ein hunain ac i’n hanwyliaid. Maent yn ffordd rymus o nodi’r disgwyliadau, a helpu i lywio’r modelau gwasanaeth newydd sy’n egino ledled Cymru.
Rydym wedi ceisio gweithio gyda phobl i ddatblygu cyfres o ddatganiadau sy’n disgrifio’r hyn yw llesiant a’r mesurau a ddefnyddiwn i sefydlu pa gynnydd sy’n cael ei wneud. Mae’r datganiadau eglur hyn wrth wraidd yr hyn rydym yn ceisio’i sicrhau wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dyma’r pethau y gall pobl eu disgwyl. Drwy rannu’r rhain yn awr, gallwn barhau i gydweithio er mwyn darparu Fframwaith Canlyniadau cyflawn a’r fframwaith perfformio sy’n sail iddo.
Mae’r Fframwaith Canlyniadau yn agwedd bwysig o’r ffordd rydym yn ceisio sicrhau gwelliannau ac mae fy natganiad i ar lesiant y dangos y ffordd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ychwanegol er mwyn gwella, ac yn ystod y flwyddyn neu fwy i ddod, rwy’n rhagweld y bydd y cymorth hwnnw’n targedu trawsnewid gwasanaethau er mwyn cynyddu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. O ganlyniad, rwy’n bwriadu targedu ein cyllid gwella o ryw £2 filiwn er mwyn cynorthwyo’r broses drawsnewid, a rhoi gwell arweiniad i’r agenda honno.
Wrth inni ddechrau gweld y Fframwaith Canlyniadau yn datblygu, bydd gennym dystiolaeth gryfach i seilio ein cymorth penodol i ddarpariaeth leol arni. Bydd hyn y llywio ein dull o wella’r gwasanaethau cymdeithasol a’n cynllun tair blynedd amlinellol. Rwy’n cyhoeddi’r cyntaf o’r cynlluniau hynny heddiw, ac mae’n nodi’r ffordd y bwriadwn gefnogi gwelliannau strategol ar draws y sector cyfan, a’r egwyddorion a fydd yn sail i’n gwaith. Caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn.
Fe welwch yn y cynllun y byddaf yn sefydlu Grŵp Llywio Gwelliant Strategol ar gyfer Llesiant yn 2013. Dyma ddatblygiad cyffrous ac un a fydd, rwy’n siŵr, yn ein helpu i weithredu yn ein ffordd unigryw ein hunain er mwyn sicrhau ein bod yn byw mewn gwlad sy’n cefnogi llesiant ei dinasyddion.
Rhaid i bawb weithio tuag at yr un gyfres o ganlyniadau pwysig er mwyn gwneud hyn, o feysydd portffolio o fewn Llywodraeth Cymru, i awdurdodau lleol, y GIG, a’r sectorau gwirfoddol a phreifat. Rhaid i arweinwyr y gwasanaethau cymdeithasol ddangos pwysigrwydd gofal cymdeithasol a chyfleu sut y maent am ad-drefnu gwasanaethau i ddiwallu anghenion y gymuned yn well. Bydd y Fframwaith Canlyniadau a’n dull cyffredinol o sicrhau gwelliannau yn tanlinellu’r hyn y mae angen ei wneud i wella llesiant pobl. Mae’n ymwneud â dysgu a chynnwys pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth a staff rheng flaen, sy’n hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i drawsnewid pethau.
Bydd gan y rheoleiddwyr ran bwysig yn y gwaith o wella safon arferion a gwasanaethau. Byddwn y cyflwyno Papur Gwyn ar Reoleiddio ac Arolygu yn yr haf.
Rwy’n credu y bydd ein dull cyffredinol yn darparu fframwaith strategol o bolisïau a deddfwriaeth ar gyfer gwella sy’n golygu bod sefydliadau – yn gomisiynwyr a darparwyr - yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy’n cyfrannu at lesiant. Rydw i eisiau darparu’r cymorth a’r cyd-destun strategol hwnnw fel y gall y newid hanfodol hwn ddigwydd.