Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd, rhennais adroddiad cynnydd ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Dyma’r adroddiad cynnydd diweddaraf a gafwyd gan y Cydgadeiryddion ers i’r Comisiwn lunio ei adroddiad interim ym mis Rhagfyr: Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd

Yn benodol, byddwn yn tynnu eich sylw at lwyfan digidol Y Safle Sgwrsio (defnyddiadylais.cymru) / Engagement Space (useyourvoice.wales). Fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes, mae’n bwysig bod gwaith y Comisiwn yn seiliedig ar brofiadau dyddiol a barn cymunedau ledled Cymru. Rwy’n eich cymell felly i annog pobl o’r cymunedau rydych chi’n eu cynrychioli i ymwneud â’r Comisiwn ac i rannu eu barn.

Yn gynharach y mis hwn, cafodd y Prif Weinidog, Adam Price AS, a finnau y cyfle i gyfarfod â’r Cydgadeiryddion er mwyn cael diweddariad ar eu gwaith hyd yma. Rydym wedi ein sicrhau bod y Comisiwn ar y trywydd iawn o ran cyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.