Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Mae cynghorwyr arbennig yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i Weinidogion, ac ar yr un pryd maent yn cadarnhau didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy sicrhau bod y ffynhonnell o gyngor a chymorth gwleidyddol yn nodedig.
Prif Weinidog Cymru sy’n eu penodi er mwyn helpu Gweinidogion gyda materion lle mae gwaith y Llywodraeth a gwaith y Blaid Lywodraethol yn gorgyffwrdd a lle byddai’n amhriodol i weision sifil parhaol fod yn gysylltiedig â’r materion hynny. Maent yn adnodd ychwanegol i’r Gweinidog, gan ddarparu cymorth o safbwynt sy’n fwy gwleidyddol ymrwymedig a gwleidyddol ymwybodol na’r hyn fyddai ar gael i Weinidog gan y Gwasanaeth Sifil parhaol.
Roedd naw o Gynghorwyr Arbennig (8 cyfwerth ag amser llawn) yn dal swyddi ar gyfer rhan neu’r cyfan o’r flwyddyn ariannol 2013/14, fel y nodir yn y tabl isod
Cynghorydd Arbennig Band Cyflog
Andrew Bold 2
Jonathan Davies * ** 1
Chris Roberts 1
Jo Kiernan 2
Steve Jones 1
Matt Greenough * 1
Ruth Mullineux*** 1
Andrew Johnson**** 1
Madeleine Brindley***** 1
*rhan-amser
** gadawodd 21/1/14
*** gadawodd 14/3/14
**** dechreuodd 4/11/13
***** dechreuodd 3/3/14
Roedd cyfanswm y bil cyflogau am y cyfnod 1 Ebrill 2013 tan 31 Mawrth 2014 yn £468,468. Mae hyn yn cynnwys cyflog, cyfraniadau yswiriant cenedlaethol y cyflogwyr a chyfraniadau pensiwn. Ni wnaed taliadau diswyddo.
Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2013-14
Roedd y bandiau cyflog a’r ystod cyflog i gynghorwyr arbennig yn 2013-14 fel a ganlyn:
Band Cyflog 1 £40,352 – £54,121
Band Cyflog 2 £52,215 – £69,266
Noder: Mewn rhai achosion caiff cynghorwyr arbenig eu talu ychydig yn fwy nag uchafswm eu band cyflog, gan adlewyrchu eu cyflogau pan y’u penodwyd.