Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 23 Awst 2012, cyhoeddwyd canlyniadau TGAU disgyblion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac roeddwn yn falch o allu llongyfarch ein pobl ifanc a’u hathrawon ar eu llwyddiant. Roedd yn fraint cael ymuno â rhai o’n dysgwyr a’u hathrawon i ddathlu.
Fodd bynnag, fel rydym yn gwybod, roedd y canlyniadau A*-C ar gyfer manyleb newydd Saesneg Iaith TGAU yng Nghymru yn is na’r hyn a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd fy swyddogion y gallai sawl ffactor fod wedi cyfrannu at y cwymp hwn, a rhoddais gyfarwyddyd ar unwaith i ymchwilio i beth oedd wedi digwydd a pham.
Cynhaliodd Ofqual eu hymchwiliad eu hunain i ddyfarniadau Saesneg TGAU yn 2012 yn Lloegr a chyhoeddwyd ei gasgliadau cychwynnol ddydd Gwener 31 Awst. Dyma a ddywedodd Ofqual: ‘Mae’r graddau a ddyfarnwyd ar gyfer modiwlau Mehefin yn gywir, ond mae’n anodd eu cysoni â chanlyniadau mis Ionawr’. O ganlyniad i’r casgliad hwn, ni argymhellodd Ofqual y dylid ailraddio’r cymwysterau ond, yn hytrach, y dylid cynnig cyfle unigryw ac eithriadol i ailsefyll yr arholiad ym mis Tachwedd 2012.
Heddiw rwy’n cyhoeddi casgliadau ein hymchwiliad ni i’r hyn ddigwyddodd eleni wrth ddyfarnu cymwysterau Saesneg TGAU yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cytuno â chasgliadau Ofqual bod ffiniau graddau wedi’u newid mewn rhai unedau rhwng Ionawr a Mehefin.
Yn bwysicach i ddysgwyr Cymru, mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod disgyblion o Gymru, fel cohort, wedi derbyn graddau is nag a ddisgwylid fel rheol o dan egwyddorion gwaith y cytunwyd arnynt er mwyn sicrhau deilliannau tebyg pan gaiff manylebau newydd eu cyflwyno. Nodwyd problemau sylweddol o ran y fethodoleg a ddefnyddiwyd, yn enwedig mewn perthynas â Chymru. Mae’r adroddiad yn nodi: “Mae’n ymddangos yn bosibl bod y canlyniadau ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru wedi eu hystumio’n ddifrifol ”. Dywed fod cwymp o 3.9 pwynt canran yn y graddau C ac uwch yn 2012, o gymharu â 2011. Dywed fod “yn amhosibl ei gyfiawnhau a bron yn sicr o fod yn annheg i ymgeiswyr”. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sawl rheswm pam fod hyn wedi digwydd.
Ar ôl ystyried yr adroddiad yn ofalus, teimlaf fod angen mynd i’r afael â’r hyn sydd, i bob golwg, yn anghyfiawnder yn achos cannoedd o ddysgwyr Cymru, a hynny ar fyrder. Er fy mod yn cydnabod bod CBAC wedi dyfarnu ei raddau cychwynnol yn unol â’r gofynion rheoliadol, rwyf heddiw wedi gofyn i CBAC ailddyfarnu ei raddau Saesneg TGAU yn unol ag argymhellion yr adroddiad ac er mwyn sicrhau deilliannau sydd mor debyg â phosibl i’r canlyniadau a welwyd yn 2011. Tan inni drafod y sefyllfa gyda CBAC, mae’n anodd gwybod pa mor hir yn union y bydd y broses hon yn ei chymryd, ond yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall dylai fod modd gwneud y gwaith ailraddio ei hun o fewn ychydig ddyddiau.
Mae fy swyddogion wedi awgrymu i Ofqual y dylid ailddyfarnu graddau Saesneg Iaith arholiadau CBAC yn Lloegr, a bydd y trafodaethau hynny yn parhau. Mater i Ofqual yw hyn.
Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau tegwch i ymgeiswyr TGAU yng Nghymru. Mae’r swyddogion rheoleiddiol wedi nodi’r problemau a’r camau a argymhellir. Rwyf innau wedi gweithredu eu hargymhellion.
Rwyf wedi cytuno y dylai’r cyfle i ailsefyll yr arholiad ym mis Tachwedd a gyhoeddwyd eisoes gan Ofqual fod ar gael i ymgeiswyr o Gymru hefyd. Dim ond lleiafrif o ymgeiswyr fydd yn derbyn graddau gwell yn sgil y camau rwy’n eu cymryd heddiw, ac nid wyf am atal y mwyafrif rhag cael cyfle i wella’u graddau – cyfle a gaiff ei roi i’w cyfoedion yn Lloegr.
Yn amlwg mae’r bennod hon yn codi cwestiynau difrifol ynghylch rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion am fwy o gyngor ar hyn. Maes o law, byddaf yn gwneud datganiad ar sail yr adroddiad ar strwythur y farchnad arholiadau yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Byddaf hefyd yn gofyn i Huw Evans a’i Fwrdd Prosiect ystyried gweddill argymhellion yr adroddiad fel rhan o’r Adolygiad parhaus o Gymwysterau 14 i 19 yng Nghymru a fydd yn cyflwyno ei adroddiad ym mis Tachwedd.