Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, wrth y Siambr y byddai'n gwneud Datganiad Ysgrifenedig ar y mater a godwyd gan Russell George AC yn y cyfarfod llawn ar 28 Chwefror am y drefn ar gyfer delio â thir halogedig. Bydda i'n rhoi'r datganiad hwnnw gan fod tir halogedig yn bwnc sy'n perthyn i'm portffolio i.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddelio â'r gwaddol o dir halogedig rydym wedi'i etifeddu yng Nghymru ac mae'n parhau i helpu Awdurdodau Lleol â'r gwaith hwn. Mae mynd i'r afael â'i effaith ar yr amgylchedd a lles ein cymunedau yn dal i fod yn flaenoriaeth. Dyna pam y neilltuwyd arian yn 2017/18 i helpu Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio ac adfer tiroedd halogedig ledled Cymru. Cafodd dros £850,000 ei neilltuo a'i ddefnyddio ymhlith pethau eraill i ariannu gwaith arloesol i lanhau llygredd dŵr o fwyngloddiau metel, gan ennyn diddordeb o bob rhan o'r byd.

Yn yr achos y cyfeiriodd Russell George AC ato, (Cyngor Sir Powys v Price a Hardwick (2017)), cafodd y Llys nad oedd Cyngor Sir Powys yn atebol o dan y drefn tir halogedig am adfer tir a halogwyd gan wastraff a ollyngwyd ar safle tirlenwi (sydd bellach wedi cau) oedd yn cael ei redeg gan ei ragflaenydd, Bwrdeistref Brycheiniog.

Disgrifir y drefn tir halogedig yn Rhan 2A Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac mae'n darparu ffordd o ddelio â'r peryglon y gall tir halogedig eu creu. Disgwylir i Awdurdodau Lleol archwilio'u hardaloedd er mwyn cael hyd i safleoedd o'r fath. Pan fydd yr awdurdod gorfodi'n fodlon bod y tir dan sylw'n cyfateb i'r diffiniad o dir halogedig a ddisgrifir yn y Ddeddf, rhaid iddo ystyried sut y dylai ei adfer. Yna daw'r broses o benderfynu pwy sy'n atebol a sut i gyflawni'r rhwymedigaethau. Sylfaen y drefn tir halogedig yw'r egwyddor mai'r 'llygrwr sy'n talu'. Bydd unrhyw berson a barodd cyflwyno'r sylweddau sydd wedi halogi'r tir neu a wnaeth caniatáu eu cyflwyno yn atebol am ei adfer (cyfeirir ato fel person 'Dosbarth A'). Lle ceir mwy nag un person Dosbarth A, rhennir yr atebolrwydd ymhlith y grŵp. Dim ond os nad oes person Dosbarth A y daw perchennog a/neu feddiannydd y tir yn atebol (cyfeirir ato fel person 'Dosbarth B'). 


Cafodd effaith y ddeddfwriaeth ad-drefnu Llywodraeth Leol 1996 ei hystyried gan y Llys. Archwiliodd yn arbennig Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Eiddo ac ati) 1996, a drosglwyddodd eu rhwymedigaethau i'r awdurdodau lleol newydd. Ym marn y Llys, nid oedd rhwymedigaeth o dan Ran 2A Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 adeg y trosglwyddiad (ni ddaeth Rhan 2A i rym yng Nghymru tan 2001), ac felly nid oedd rhwymedigaeth i'w drosglwyddo i'r awdurdod olynol o dan Orchymyn 1996. Mae'r achos yn ei gwneud yn glir na chaiff awdurdodau olynol a sefydlwyd yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 fod yn berson 'Dosbarth A' mewn cysylltiad â thir a halogwyd yn sgil cyflwyno sylweddau gan weithgareddau'u rhagflaenwyr. Mae fy swyddogion wrthi'n ystyried goblygiadau'r trefniant deddfwriaethol hwn yng ngoleuni'r achos y cyfeiriodd Russell George AC ato. 


Mae'n bwysig nodi bod nifer o ffactorau'n dylanwadu ar sut y caiff yr atebolrwydd am dir halogedig ei adnabod, ei briodoli a'i rannu. Er mwyn i dir (gan gynnwys hen safleoedd tirlenwi/gwastraff diwydiannol) gael ei ystyried yn dir halogedig o dan Ran 2A Deddf Amgylchedd 1990, rhaid iddo fodloni ar ôl archwiliad y diffiniad a geir yn y Ddeddf. Hyd yn oed wedyn, ceir nifer o ffactorau fydd yn effeithio ar adnabod y person sy'n atebol am adfer y tir, a sut y caiff yr atebolrwydd hwnnw ei briodoli a'i rannu i'r person atebol. Lle nodir bod y tir wedi'i halogi, bydd yr awdurdod gorfodi'n ystyried amgylchiadau pob achos unigol wrth arfer ei swyddogaethau i bennu'r gofynion adfer a'r costau cysylltiedig (cewch fanylion pellach yn y Canllaw Statudol i Gymru ar Dir Halogedig 2012(1)). Cloriennir pob achos yn ôl ei ffeithiau. Dylai unrhyw un sy'n bryderus ynghylch goblygiadau posib dyfarniad y Llys iddynt hwy ystyried gofyn barn gyfreithiol am eu hamgylchiadau penodol a siarad â'r awdurdod lleol.