Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae’r Datganiad hwn yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf ynghylch mesurau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod beicwyr modur yn fwy diogel ar ein ffyrdd yng Nghymru.
Mae beicwyr modur ymysg y grwpiau sy’n wynebu’r perygl mwyaf ar y ffyrdd yng Nghymru. Nid yw’r data ynghylch pa mor debygol ydynt o fod mewn gwrthdrawiad difrifol yn gymesur; yn 2011 roeddent yn cynrychioli 1% o wrthdrawiadau traffig ffordd ond 37% o’r rhai a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn cerbyd. Nid yw nifer y beicwyr modur sydd wedi’u hanafu'n ddifrifol neu eu lladd mewn damweiniau ffyrdd wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf, o’i gymharu â grwpiau eraill o ddefnyddwyr y ffyrdd. Nid wyf yn credu bod hyn yn dderbyniol.
Mae nifer anghymesur o feicwyr modur yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Canolbarth Cymru. Mae dadansoddiadau ystadegol wedi dangos mai beicwyr gwrywaidd ar feiciau pwerus yw nifer uchel y rhain, ac mae’r damweiniau yn dueddol o ddigwydd yn ystod misoedd mwyaf sych y flwyddyn. Byddwn yn parhau i gydweithio â Heddlu Dyfed Powys ac â phartneriaid eraill drwy Ymgyrch ‘Darwin’ sy’n targedu’r gyrwyr modur hyn ac yn eu haddysgu ynghylch pwysigrwydd diogelwch a lle y bo’n bosibl orfodi’r gyfraith.
Rwyf wedi darparu £6 miliwn i awdurdodau lleol yn 2013/14 ar gyfer gwaith ym maes diogelwch ar y ffyrdd. Bwriedir defnyddio cyfran o’r arian hwn ar gyfer targedu beicwyr modur. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cyrsiau gyrru beiciau modur ar lefel uwch, cyngor ymarferol ar ddiogelwch, cyhoeddusrwydd penodol a chynlluniau peirianneg.
Byddaf hefyd yn cyhoeddi ein Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd yn fuan. Pwysleisiodd y ddogfen ymgynghori ba mor agored i niwed yw beicwyr modur, ac roedd yn cynnwys targed penodol ar gyfer lleihau nifer y beicwyr modur a gaiff eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd. Nodwyd hefyd fod disgwyl i bartneriaid fynd ati i geisio trafod y mater â beicwyr modur. Mae fy swyddogion wrthi’n cwblhau’r gwaith o ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Byddaf yn nodi’r ffordd ymlaen ar ôl i’r gwaith hwn ddod i ben.