Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pwrpas y Datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y camau yr wyf wedi’u cymryd ac wedi’u hysgogi ers fy natganiad diwethaf ar y mater. Hoffwn hefyd roi gwybod i’r Aelodau am gamau a chynlluniau yn y dyfodol.

Ni fydd ymddygiad y perchnogion ceffylau sy’n ceisio osgoi eu cyfrifoldebau drwy droi cefn ar eu hanifeiliaid neu adael iddynt bori’n anghyfreithlon yn cael ei oddef gennym, unrhyw le yng Nghymru. Rwy’n disgwyl i bob asiantaeth ac awdurdod perthnasol ymdrin yn gadarn â pherchenogion o’r fath a bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gamau a gymerir yn erbyn perchnogion sy’n mynd ati’n fwriadol i dorri’r gyfraith neu achosi dioddefaint i’w hanifeiliaid, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod. Byddwn hefyd yn cefnogi unrhyw gamau ychwanegol y bydd yr awdurdodai ac asiantaethau’n penderfynu eu cymryd i ddelio â’r broblem yn effeithiol.

Ers fy nghyfarfod positif iawn gyda Carmel Napier, Prif Gwnstabl Gwent, sy’n arwain ar ran Prif Gwnstabliaid Cymru ar y materion hyn, rwyf wedi bod yn hapus iawn â’r modd y mae’r heddlu wedi rhoi nifer o gynlluniau ar waith er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem.

Byddwn yn cydweithio â’r heddlu er mwyn trefnu seminar ar ddechrau’r flwyddyn newydd a fydd yn lledaenu arfer da, yn pennu’r camau pellach  sydd angen eu cymryd er mwyn atal pori anghyfreithlon anawdurdodedig.  Yn fy marn i, mae angen polisi genedlaethol a un dull cyson er mwyn sicrhau nad yw’r broblem yn cael ei throsglwyddo i rannau eraill o’r wlad. Bydd yr heddlu hefyd yn darparu adnoddau a fydd yn cynorthwyo awdurdodau lleol i arfer eu cyfrifoldebau a bydd yn mynd ati mewn modd blaengar i orfodi’r rheolau.  

Rwyf hefyd bellach wedi cyfarfod ag Arweinwyr Cynghorau ar draws y De ac wedi ail-bwysleisio’r angen am ddull cydgysylltiedig a chadarn ar gyfer datrys y broblem. Rwyf wedi pwysleisio wrth yr heddlu ac wrth awdurdodau lleol yr hyn y byddwn yn disgwyl i awdurdodau gorfodi ei gyflawni a sut y byddwn yn disgwyl iddynt ddefnyddio mewn modd pendant yr holl ddeddfwriaeth sydd ar gael er mwyn ymateb i bori anghyfreithlon.

Rwy’n fodlon bod ymrwymiad clir a pharodrwydd ar ran asiantaethau a sefydliadau i gydweithio i ddelio â’r broblem hon.

Byddaf yn ymgynghori ynghylch y ddeddfwriaeth sydd ar gael nawr ac y gallai fod ei hangen yn y dyfodol i ddelio â phroblem pori anghyfreithlon. Os yw’r dystiolaeth yn cyfeirio at yr angen am newidiadau deddfwriaethol byddaf yn anelu i gyflwyno deddfwriaeth newydd cyn gynted ag y bo modd.  

Mae cyfrifoldeb ar dirfeddianwyr sy’n dioddef pori anghyfreithlon i gamu ymlaen a thynnu sylw’r awdurdodau at achosion ac unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rwy’n falch iawn bod yr Heddlu wedi ymateb yn gadarnhaol drwy gyflwyno ‘Pwynt Cyswllt Unigol’ drwy’r rhif 101 o fewn pob ardal heddlu, i hwyluso hyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu cyfeiriad e-bost, equinepolicy@llyw.cymru a fydd yn helpu ac yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i adrodd ynghylch achosion o bori anghyfreithlon, troi cefn ar anifeiliaid neu unrhyw faterion eraill cysylltiedig.      

Cefais gyfarfod gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar y Ceffyl ar 20 Tachwedd. Roedd hyn yn gyfle gwerthfawr i mi wrando ar bryderon y rhai a oedd yn bresennol. Cefais fy nghalonogi’n fawr iawn gan eu barodrwydd i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a’r heddlu i ddarparu sgiliau hyfforddi allweddol, yn ogystal â gweithio gyda pherchenogion ceffylau unigol o fewn cymunedau i ddarparu addysg i herio’r broblem o ddiffyg cydymffurfiaeth o ran deddfwriaeth lles ac adnabod. Rwy’n rhannu siom aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol am benderfyniad Defra i beidio ariannu’r Cronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol bellach, penderfyniad a fydd yn sicr yn amharu ar allu’r awdurdodau gorfodi i gadarnhau a dod o hyd i berchnogion ceffylau yn y dyfodol. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Defra er mwyn mynegi fy marn ynghylch y penderfyniad hwn a’r modd mympwyol y cafodd ei wneud.

Mae Cymru’n arwain o fewn y DU wrth geisio dod o hyd i atebion i’r broblem o bori anghyfreithlon, ac mae fy swyddogion yn rhannu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y mater hwn gyda’u cydweithwyr yn Defra. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ac ar ddechrau’r gaeaf mae pryder y bydd nifer yr enghreifftiau o bori anghyfreithlon yn cynyddu. Rhaid i bob asiantaeth berthnasol fod yn barod i ymateb yn gadarnhaol ac yn gadarn i amddiffyn lles ceffylau a merlod, i ddiogelu eiddo tirfeddianwyr a diogelwch y cyhoedd yn gyffredinol.