Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Roedd y Diwrnod Adfywio Calon, a gynhaliwyd ar 18 Hydref, yn llwyddiant mawr gyda thros 200 o wirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol, ac Ambiwlans Sant Ioan, yn ogystal â staff o fyrddau iechyd, yn helpu i ddarparu hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd mewn 43 o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Rhoddwyd hyfforddiant i dros 7,200 o ddisgyblion ysgol uwchradd. Hoffem longyfarch yr holl ysgolion a disgyblion a gymerodd ran, yn ogystal â diolch i’r holl wirfoddolwyr. Roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad ar gyfer plant ysgol a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm ar 18 Hydref.
Roedd yr adborth a gafwyd gan ysgolion a disgyblion yn hynod gadarnhaol; roedd 13 o ysgolion eisoes yn meddu ar ddiffibrilwr, a dywedodd 26 arall y byddent yn hoffi cael un. Roedd gan bob ysgol gyfarpar Call Push Rescue oddi wrth Sefydliad Prydeinig y Galon, ac felly byddant i gyd mewn sefyllfa i allu parhau â’r hyfforddiant.
Drwy gydol mis Hydref, bu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn rhedeg ymgyrch Shoctober. Nod y cynllun oedd helpu plant i achub bywydau, ac roedd wedi’i anelu at blant oedran ysgol gynradd ledled Cymru. Cafodd y plant gyfle i ddysgu sgiliau achub bywyd ar gyfer ymdrin â digwyddiadau brys lle y mae bywyd yn y fantol. Cofrestrodd dros 200 o ysgolion i gymryd rhan yn yr ymgyrch, a chymerodd ychydig dros 9,500 o blant ran ynddi, gyda’r plant 3-7 oed yn dysgu drwy ymarfer y dull Adfywio Cardio-pwlmonaidd ar dedi bêrs a phlant 8-11 oed yn dysgu drwy ymarfer y dull Adfywio Cardio-pwlmonaidd ar ddoliau. Aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Ysgol Penmaes yn Aberhonddu ar 3 Hydref i gymryd rhan yn y lansiad a gynhaliwyd yno.
Rydym yn ffyddiog y bydd y staff a’r disgyblion yn parhau i gael eu hysbrydoli, gan ddylanwadu ar syniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn defnyddio’r adborth a gafwyd gan yr ysgolion i ddatblygu’r ymgyrch Shoctober yn y dyfodol.
Yn ogystal â hyn, bydd yr ymgyrch Defibuary yn rhedeg drwy gydol mis Chwefror. Nod yr ymgyrch hon yw sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw symptomau ataliad ar y galon a lle mae’r cyfarpar sydd ar gael i’r cyhoedd os bydd digwyddiad brys lle mae bywyd yn y fantol. Cafodd Defibuary ei lansio eleni, a chafodd lleoliadau dros 400 o ddiffibrilwyr allanol awtomatig eu rhoi ar dudalen cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a nodwyd lleoliad 150 o gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig newydd a fydd ar gael i dros 301,000 o bobl. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cysylltu’n uniongyrchol â thros 300 o ysgolion ledled Cymru ac wedi meithrin cysylltiadau â chymunedau a sefydliadau lleol i rannu gwybodaeth am ddiffibrilwyr a sut i’w defnyddio.
Rydym yn sylweddoli pa mor effeithiol y gall diffibrilwyr fod a sut y gallant wella cyfle unigolyn o oroesi ar ôl dioddef ataliad ar y galon. Mae oddeutu 2,000 o ddiffibrilwyr wedi eu cofrestru ar wefan Galw Iechyd Cymru ac mae map sy’n dangos yr holl leoliadau ledled Cymru: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/localservices/maplocalservices.aspx?/locale=cy. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru Ddiffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus sydd wedi eu cofrestru ac sydd ar gael yn 10 o swyddfeydd y Llywodraeth. Yn ogystal â hyn, mae timau o Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol ar gael yn Llandrindod, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth.
Mae cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio ar furiau allanol holl adeiladau’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn y Gogledd (gan gynnwys pob gorsaf dân). Mae gan Wasanaethau Tân y Canolbarth, y Gorllewin a’r De gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig ar eu holl offer rheng flaen. Mae hynny’n golygu bod diffibrilwyr allanol awtomatig ym mhob gorsaf dân yng Nghymru, er nad yw pob un ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd. Cawsant eu prynu gyda thros £300,000 o gymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015.
Mae safleoedd diffibrilwyr wedi eu cofrestru hefyd ar systemau cyfrifiadurol Canolfan Cyswllt Clinigol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er mwyn i bobl allu dod o hyd i’r diffibrilwr agosaf yn gyflym. Mae timau’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda chymunedau ac elusennau drwy gydol y flwyddyn i ddarparu hyfforddiant ar ddefnyddio cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig ac ar Adfywio Cardio-pwlmonaidd ledled Cymru. Hoffem annog pob sefydliad a chymuned, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i gofrestru eu cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig drwy dudalen we Be a Defib Hero yr Ymddiriedolaeth: https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/fs/fs.aspx?surveyid=87006d5283a4e309b216889d0b53e78&fsl=en-gb.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn hapus i roi cyngor ar gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig i unrhyw sefydliad, gan gynnwys cynghorau cymuned, a helpu i ddarparu cyfarpar o’r fath yn seiliedig ar gost yn unig. Rydym yn ymwybodol o’r gwaith a wneir ar y cyd gan orsafoedd tân lleol yn y Canolbarth a’r Gorllewin a chynghorau cymuned yn ardal y Gŵyr lle mae dros 50 o diffibrilwyr allanol awtomatig sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio wedi eu gosod ar draws yr ardal.
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar gyflwyno deddfwriaeth orfodol yng Nghymru i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael yn ein holl fannau cyhoeddus, rydym wedi atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun ar gyfer Ataliad ar y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, gyda chymorth nifer o bartneriaid gan gynnwys GIG Cymru, y gwasanaeth tân, sefydliadau addysg a’r trydydd sector, ac rydym yn rhagweld y bydd y cynllun hwn yn barod i’w gyhoeddi yn y gwanwyn 2017. Bydd y cynllun yn cynnwys dulliau o adnabod symptomau cynnar ataliad ar y galon, darparu Adfywio Cardio-pwlmonaidd o ansawdd uchel yn ddi-oed, diffibrilio cynnar a darparu gofal ôl-adfywio effeithiol. Fel rhan o’r gwaith o weithredu’r cynllun hwn, rydym yn rhagweld y bydd angen cyflawni rhagor o waith i fapio’r sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’n llawn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o’r neges o ba mor hanfodol yw hi bod pawb yn dysgu sgiliau achub bywyd a sut i roi cymorth cyntaf brys.
Ar hyn o bryd mae holl ddysgwyr Cymru yn cael y cyfle i ddysgu am ddulliau o roi cymorth cyntaf brys drwy eu hastudiaethau Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) sy’n rhan o’r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer yr holl ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgolion a gynhelir. Y fframwaith ABCh anstatudol ar gyfer plant a phobl ifanc 7-19 oed yw’r ddogfen allweddol y dylai ysgolion ei defnyddio i gynllunio rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol gytbwys a pherthnasol ar gyfer y dysgwyr, a allai gynnwys datblygu sgiliau bywyd ymarferol megis rhoi cymorth cyntaf.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi ailgadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn argymhellion adroddiad yr Athro Graham Donaldson, ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Mae ‘Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes’ yn pennu amserlen ar gyfer bwrw ymlaen â’r argymhellion hyn, gyda’r nod o sicrhau bod y cwricwlwm newydd ar gael o 2018 ymlaen, a’i fod yn cael ei ddefnyddio fel sail i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion a lleoliadau erbyn 2021.
Yn ei adroddiad, mae’r Athro Donaldson yn nodi pedwar diben ar gyfer addysg – un ohonynt yw y dylai helpu ein holl blant a phobl ifanc i fod yn unigolion iach a hyderus. Hefyd, mae ei adroddiad yn nodi chwe Maes Dysgu a Phrofiad sy’n ganolog i strwythur y cwricwlwm newydd, ac un o’r meysydd hynny yw Iechyd a Llesiant.
Caiff dyluniad y cwricwlwm newydd ei ddatblygu gan rwydwaith o Ysgolion Arloesi sy’n gweithio mewn partneriaeth Cymru gyfan ag arbenigwyr addysg, Llywodraeth Cymru, Estyn, a’r sectorau Addysg Bellach ac Uwch, y sector busnes a phartneriaid allweddol eraill. Bydd datblygiad y cwricwlwm newydd yn cael eu lywio gan yr arbenigedd maen nhw’n ei rannu, a byddant yn ystyried tystiolaeth mewn perthynas â’r holl bynciau, gan gynnwys datblygu sgiliau bywyd ymarferol megis rhoi cymorth cyntaf. Wrth i’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd fynd rhagddo, bydd yr Ysgolion Arloesi hefyd yn ystyried y dysgu a’r cymorth proffesiynol y bydd eu hangen i alluogi gweithwyr proffesiynol i wireddu’n llawn fanteision y cwricwlwm newydd.
Yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, nododd yr Athro Donaldson fod y cwricwlwm presennol wedi ei orlwytho a’i fod wedi mynd yn gymhleth, yn rhannol oherwydd y ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig ag ef. Mae’r adolygiad wedi nodi trywydd i Lywodraeth Cymru ei ddilyn, ac mae’n argymell y dylid defnyddio deddfwriaeth i ddiffinio set o ddyletswyddau eang yn hytrach na rhagnodi cynnwys yn fanwl. Cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth a fyddai’n sail i fframwaith y cwricwlwm newydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad, gan roi’r cyfle i randdeiliaid roi eu sylwadau ar ein cynigion.
Nid oes unrhyw un ohonom yn gwybod pryd y gallai sefyllfa godi lle mae angen gwneud rhywbeth i helpu i achub aelod o’r teulu, ffrind, cymydog neu ddieithryn. Trwy ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol, rydym wedi galluogi llawer o blant a phobl ifanc i wneud rhywbeth ymarferol i roi cychwyn ar gyfres o gamau a allai wella’r posibilrwydd bod unigolyn yn goroesi pan fydd ei galon yn peidio â churo yn sydyn. Rydym am sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bob cymuned yng Nghymru.