Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Datganiad Ansawdd newydd ar Glefyd Fasgwlaidd er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau'r GIG mewn modd cyson drwy bennu disgwyliadau cenedlaethol a llwybrau gofal clinigol.
Dyma'r deuddegfed datganiad ansawdd i gael ei gyhoeddi. Mae'n nodi'r hyn a olygir wrth wasanaethau fasgwlaidd o ansawdd uchel, ac yn adlewyrchu consensws barn arbenigwyr a rhanddeiliaid ar feysydd pwyslais hanfodol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae clefydau fasgwlaidd yn effeithio ar rwydwaith y pibellau gwaed a elwir yn system fasgwlaidd neu'n system cylchrediad y gwaed. Mae clefyd fasgwlaidd yn gyffredin yn y gymuned, ac mae'n mynd yn fwy cyffredin ac yn fwy difrifol i bobl wrth iddynt heneiddio. Er enghraifft, mae clefyd y rhydwelïau perifferol yn effeithio ar tua 20 y cant o'r boblogaeth dros 60 oed yn y DU, ac mae'n dod â risg o golli coes a risg uwch o farwolaeth drwy drawiad ar y galon a strôc. Mae anewrysmau o'r aorta abdomenol yn effeithio ar 1-3 y cant o ddynion 65 oed a throsodd, sy'n gallu achosi marwolaeth drwy rwygo os na chânt eu trin. Mae hyd at 50 y cant o gleifion yn dod i'r amlwg gyntaf fel achosion brys neu argyfwng. Felly, mae'n bwysig bod gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynllunio er mwyn diwallu'r angen hwn drwy helpu pobl sydd newydd gael diagnosis i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cynnwys yn y gwaith o reoli eu clefyd, gan leihau'r risg y bydd y clefyd yn gwaethygu, a chan helpu i osgoi galw diangen ar y system gofal iechyd.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi newid yn sylweddol. Mae'r angen am driniaethau arbenigol a chymhleth wedi arwain at gasglu adnoddau ac arbenigedd mewn llai o leoliadau. Mae nifer o fanteision i hyn – mae rheoli cyflyrau'n dda yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau gorau i gleifion a sicrhau GIG sy'n gynaliadwy. Fodd bynnag, mae gwasanaethau mewn rhai ardaloedd o Gymru wedi wynebu heriau sylweddol, yn bennaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle mae gwaith gwella dwys wedi bod yn mynd rhagddo mewn ymateb i nifer o adolygiadau.
Mae'r Datganiad Ansawdd yn ystyried yr adolygiadau hynny, gan amlinellu gweledigaeth sy'n cynnwys pob rhan o'r broses, o atal cyflyrau fasgwlaidd hyd at gefnogi pobl y mae arnynt angen triniaeth ar eu cyfer. Ei nod yw ysgogi gwelliannau system gyfan drwy leihau amrywiadau diangen mewn gofal a sicrhau canlyniadau gwell ar hyd y llwybr cyfan. Bydd y pwyslais ar annog trawsweithio a chydweithio â grwpiau eraill. Mae gan Rwydwaith Fasgwlaidd Cymru Gyfan rôl allweddol i'w chwarae o ran darparu arweinyddiaeth glinigol gref er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau mewn ansawdd a pherfformiad y gwasanaethau hyn.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r GIG i sicrhau ei fod yn gweithredu ar sail y disgwyliadau yn y Datganiad Ansawdd drwy brosesau cynllunio lleol, gan ddefnyddio gwybodaeth a data megis y Gofrestr Fasgwlaidd Genedlaethol i fesur gwelliannau mewn canlyniadau.
Gellir gweld y datganiad ansawdd yn: Datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd