Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofal mewn Adrannau Achosion Brys sy'n nodi'r canlyniadau a'r safonau y dylai pobl eu disgwyl wrth gael gofal mewn adrannau achosion brys o ansawdd uchel ledled Cymru.
Mae'r datganiad hwn yn ategu'r ymrwymiadau a wnaed yn ein llawlyfr polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng a dylid ei ddarllen yng nghyd-destun y gwaith gwella ehangach sydd eisoes ar y gweill, fel rhan o'n dull system gyfan ar gyfer darparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl a sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn amserol.
Mae staff adrannau achosion brys yn gweithio'n ddiflino bob dydd i ddarparu'r gofal gorau i bobl ddifrifol wael a phobl sydd wedi’u hanafu, yn aml o dan bwysau anhygoel ac mewn amgylchiadau anodd. Maen nhw yno pan fydd eu hangen fwyaf arnom. Rwy'n ddiolchgar dros ben am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u harbenigedd.
Mae'r datganiad ansawdd hwn wedi'i gynhyrchu yn dilyn gwaith ymgysylltu â staff y GIG a'r cyhoedd. Cafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag arweinwyr clinigwyr ac fe’i cefnogir gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae’n seiliedig ar ein Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd.
Mae'n rhoi cyfarwyddyd clir i fyrddau iechyd ar yr hyn a olygir wrth da ar gyfer gofal mewn adrannau achosion brys, gan ganolbwyntio ar nifer o agweddau allweddol – yn eu plith amseroldeb mynediad, cyfathrebu effeithiol a darparu'r gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd fabwysiadu'r datganiad ansawdd hwn ar unwaith fel fframwaith ar gyfer galluogi darparu'r gofal a'r driniaeth orau posibl mewn adrannau achosion brys. Bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio eu cynlluniau yn 2024-25 ar gyflawni nifer bach o flaenoriaethau a gymeradwywyd yn glinigol:
- Lleihau'r risg o niwed a achosir gan brysurdeb mewn adrannau achosion brys.
- Gwella profiad cleifion drwy ddarparu cyfleusterau o ansawdd uwch a sicrhau'r capasiti gweithlu cywir i ymateb i’r galw gan gleifion.
- Darparu prosesau brysbennu ac asesu cyflymach sy'n cefnogi blaenoriaethu clinigol.
- Darparu prosesau ar gyfer atgyfeirio cleifion a'u rhoi ar lwybrau uniongyrchol yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i helpu pobl i gael y gofal arbenigol cywir yn gyflymach.
- Darparu arferion gwaith cynaliadwy i gefnogi datgarboneiddio a bod mor effeithlon â phosibl.
- Datblygu gwell ansawdd data i gefnogi gwaith cynllunio a gwella profiad a chanlyniadau.
- Adolygu a gweithredu mesurau mewn adrannau achosion brys sy'n adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i gleifion a staff.
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r datganiad ansawdd a'r blaenoriaethau drwy'r rhaglen genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, a'r rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer gofal critigol, trawma a meddygaeth frys.
Er mwyn sbarduno cynnydd, rydym yn lansio fframwaith achredu 'Adrannau Brys Gwyrdd' cenedlaethol ar draws yr holl adrannau achosion brys yng Nghymru, mewn cydweithrediad â'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae'r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei chroesawu gan glinigwyr a bydd yn ymgorffori arferion gwaith cynaliadwy o fewn adrannau achosion brys ac yn cael effaith gadarnhaol ar leihau allyriadau, gwastraff a chostau.
Yn ogystal, bydd offeryn cenedlaethol a ddatblygwyd gan y rhaglen GIRFT (Cael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf) yn cael ei lansio i ddod â gwybodaeth am alw, capasiti, canlyniadau a llif gwybodaeth adrannau achosion brys ynghyd. Bydd hyn yn galluogi i fyrddau iechyd sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o anghenion gofal brys eu poblogaeth leol, a gofynion y gweithlu a’r seilwaith i dargedu gwelliannau i ofal cleifion. Eleni, rydym wedi darparu £2.7m i wella amgylcheddau i sicrhau gwell profiad i gleifion a staff mewn adrannau achosion brys ac unedau mân anafiadau yng Nghymru.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar yn asesu sut mae ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cymharu ar draws y DU. Rwy'n croesawu’r canfyddiadau sy'n cefnogi ein safbwynt bod ystadegau adrannau achosion brys mawr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gymharol debyg.
Er mwyn adeiladu ar y darn annibynnol hwn o waith, rwyf wedi sefydlu grŵp gorchwyl cenedlaethol i adolygu mesurau adrannau achosion brys. Bydd y grŵp yn ystyried a oes gwell ffyrdd o fesur ansawdd, gwerth, profiad a chanlyniadau’r gofal a ddarperir mewn adrannau achosion brys i helpu i hysbysu'r cyhoedd yng Nghymru am yr hyn y gallant ei ddisgwyl wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ac i helpu i gymell gwelliannau. Byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a'r hyn sy'n ystyrlon yn glinigol.
Byddwn yn adrodd ar gynnydd pellach yn erbyn yr holl gamau blaenoriaeth cyn gaeaf 2024-25.