Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Tachwedd 2014, dechreuodd Llywodraeth Cymru ymgynghori ar y gyfres gyntaf o reoliadau, y codau ymarfer a'r canllawiau statudol cysylltiedig, sydd i'w gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn dilyn diwedd yr ymgynghoriad ar 2 Chwefror, 2015, mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a'r cyllid a'r cymorth ychwanegol a fydd ar gael wrth i'r Ddeddf gael ei rhoi ar waith yng Nghymru.
Roedd yr ymgynghoriad yn cwmpasu pum rhan o'r Ddeddf - yn benodol rhannau 2, 3, 4, 7 ac 11 - yn unol â'r dull gweithredu a nodwyd gan y cyn-Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, yn ei datganiad ysgrifenedig ar 16 Gorffennaf 2014.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori o 12 wythnos, cynhaliwyd dau ddigwyddiad llwyddiannus, a oedd yn cynnwys 250 o bobl o amrywiaeth eang o gyrff sy'n rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru. Cafwyd dros 300 o ymatebion ysgrifenedig sylweddol mewn ymateb i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth eang o unigolion, grwpiau cynrychioliadol, Llywodraeth Leol a sefydliadau proffesiynol.
Roedd yr ymateb cyffredinol i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol. Roedd yr ymatebwyr o blaid egwyddorion a manylion y rheoliadau, y codau ymarfer a'r canllawiau statudol drafft.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddadansoddi'r ymatebion yn fanwl, ond mae nifer o themâu cyffredin wedi dod i'r amlwg:
- Yr angen am ddull cynhwysfawr o ymdrin â dysgu a datblygu er mwyn sicrhau bod staff ym mhob rhan o'r sector a phartneriaid yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i fodloni'r gofynion newydd a bod sefydliadau yn cael cymorth i wneud y newidiadau diwylliannol sydd eu hangen;
- Yr angen i roi ystyriaeth drylwyr i'r dull o bontio i'r system newydd;
- Yr angen i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r newidiadau a gaiff eu cyflwyno;
- Yr angen i sicrhau bod yr holl bartneriaid cyflawni yn cael eu cynnwys yn llawn wrth ystyried y ffordd y caiff adnoddau eu targedu pan gaiff y newidiadau eu rhoi ar waith;
- Yr angen i ymgorffori trefniadau cydweithredu, nid yn unig wrth gyflawni drwy drefniadau partneriaeth megis y rhai ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ond hefyd wrth weithredu polisi drwy rannau gwahanol o'r Ddeddf;
- Yr angen i barhau i gydweithio i ymgorffori arferion a threfniadau newydd ar ôl mis Ebrill 2016, gan gynnwys cyd-ddatblygu canllawiau ar arfer da.
Bydd yr ymatebion yn llywio'r broses o ddatblygu'r rheoliadau, y codau ymarfer a'r canllawiau statudol terfynol, a gaiff eu cyflwyno ger bron y Cynulliad Cenedlaethol o fis Mai 2015. Er mwyn sicrhau bod cyfres lawn o wybodaeth ar gael i helpu i wneud y Rheoliadau caiff drafftiau gwaith o'r gyfres gyntaf o godau ymarfer a chanllawiau statudol eu cyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiad yr ymgynghoriad.
Bydd ail gyfres o reoliadau, codau ymarfer a chanllawiau statudol, a fydd yn ymwneud â rhannau 5, 6 a 9 o'r Ddeddf, ar gael ar gyfer ymgynghoriad o fis Mai, gyda'r nod o'u gosod ger bron y Cynulliad Cenedlaethol ddiwedd 2015.
Bydd yr ail gyfres hon yn creu system sy'n sicrhau canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya; sy'n ysgogi ymdrechion cydweithio rhanbarthol; sy'n rhoi system ar waith ar gyfer codi tâl, cynnal asesiadau ariannol a thalu am ofal; sy'n hwyluso'r broses o gyflwyno sylwadau a darparu eiriolaeth ac sy'n ymdrin â'r materion sy'n deillio o fethiannau gan ddarparwyr.
Mae'r gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - a thrwyddi'r system newydd ar gyfer gofal cymdeithasol sydd ei hangen ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy - yn mynd y tu hwnt i wneud is-ddeddfwriaeth, er mor bwysig yw hyn. Mae tri darn o waith yn mynd rhagddynt, sy'n cwmpasu parodrwydd y gweithlu, codi ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth ehangach, a gweithgarwch gweithredu rhanbarthol allweddol.
Bydd Cyngor Gofal Cymru, fel y corff arweiniol ar gyfer datblygu'r gweithlu, yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth dysgu a datblygu genedlaethol. Mae'r strategaeth yn hollbwysig o ran gweithredu'r Ddeddf a bydd angen arweinyddiaeth barhaus, benderfynol a phroffil uchel, a all ymestyn at amrywiaeth eang o sefydliadau a phartneriaid y tu hwnt i ffiniau'r sector gofal cymdeithasol traddodiadol.
Bydd y Cyngor Gofal yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod gennym strategaeth sy'n cwmpasu pawb sy'n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol, ynghyd â'u partneriaid allweddol, a'i fod yn cael ei gyflawni ar y cyd â'r partneriaid hynny ac mewn cydweithrediad â hwy.
Bydd y strategaeth hon yn cynnwys cynllun defnyddio hyfforddiant a chanolfan wybodaeth 'siop un stop', gan chwarae rhan gynorthwyol allweddol ar gyfer y sector o ran sicrhau ei fod yn barod ar gyfer y newidiadau y bydd y Ddeddf a'i rheoliadau yn eu dwyn i rym.
Caiff ei hategu gan £1m yn 2015-16 o raglen datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd £7.1m arall o'r rhaglen, ynghyd â'r arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, sef cyfanswm o tua £11m, yn helpu i ddatblygu a gweithredu cynlluniau hyfforddiant rhanbarthol traws-sector, a fydd yn gyson â'r strategaeth genedlaethol a'r cynlluniau gweithredu rhanbarthol. Bydd hyn yn sicrhau cydlyniant o ran y gwaith o gynllunio gwasanaethau a'r gweithlu er mwyn gweithredu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu llywodraeth leol a'i phartneriaid i bontio i'r trefniadau newydd. Yn 2013-14 a 2014-15, cynigiwyd grant Cyflawni Trawsnewid i'r chwe phartneriaeth ranbarthol ac i bartneriaid cenedlaethol dethol er mwyn galluogi llywodraeth leol a'i phartneriaid i roi gofynion y Ddeddf newydd ar waith.
Mae'r chwe rhanbarth wedi cyflawni gwaith arbennig hyd yn hyn, sy'n dangos eu hymrwymiad i weithredu'r Ddeddf ac yn darparu sail ardderchog ar gyfer y cynlluniau gweithredu manylach sydd wrthi'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn dyblu'r arian sydd ar gael drwy'r grant Cyflawni Trawsnewid i £3m yn 2015-16. Mae'r swm hwn yn ychwanegol at yr £20m a gyhoeddwyd eisoes eleni er mwyn i waith y prosiectau a ariennir drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol allu parhau ac at y cynnydd o £10m yn y Grant Cynnal Refeniw at ddibenion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn dibynnu ar benderfyniadau cyllidebol, darperir £3m arall mewn arian grant yn 2016-17 i ategu'r broses ymgorffori, gyda'r nod o drosglwyddo’r swm hwn i'r Grant Cynnal Refeniw o 2017-18 er mwyn cydnabod y newid parhaus y mae'r Ddeddf yn ei ysgogi.
Bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn adeiladu ar y consensws cenedlaethol a gafwyd i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom er mwyn gwella'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn parhau i sicrhau y caiff pob agwedd allweddol ar Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ei gweithredu gan sicrhau y caiff dinasyddion eu cynnwys yn rheolaidd ac y ceir arweinyddiaeth gadarn ar y cyd gan lywodraeth leol, y GIG a darparwyr yn y sector preifat a'r trydydd sector.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r fforwm partneriaeth cenedlaethol, y grŵp arweinyddiaeth a phanel y dinasyddion er mwyn cefnogi hyn, ac er mwyn sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn parhau i fod wrth wraidd ein rhaglen newid.