Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwyf wedi rhoi gwybod i Gadeirydd ac Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru fy mod o'r farn y bydd yn rhaid sicrhau arweinyddiaeth newydd, a hynny er mwyn i’r sefydliad ailgydio fel Bwrdd ffyniannus ar gyfer y dyfodol. Rwyf felly wedi rhoi gwybod i’r Cadeirydd, Dr Thomas, ac i’r Is-gadeirydd, Adele Baumgardt, fy mod yn terfynu eu penodiadau, gan roi iddynt gyfnod o rybudd.
Mae’r ddau unigolyn wedi rhoi blaenoriaeth i fuddiannau chwaraeon yng Nghymru, ac wedi gweithredu ag egni ac ymroddiad, ond rwyf o'r farn bod y berthynas ar lefel arweinyddiaeth Bwrdd Chwaraeon Cymru wedi methu y tu hwnt i adfer.
Fy nod pennaf i yw sicrhau effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru a sicrhau cyfraniad y sefydliad at lesiant y genedl wrth iddo ganolbwyntio ar chwaraeon ac ar weithgareddau hamdden corfforol. A dyna yw sail fy mhenderfyniad. Rwyf wedi gofyn i'r Cadeirydd dros dro, Lawrence Conway, barhau yn y swydd am weddill 2017 o leiaf, a bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd ag aelodau eraill y Bwrdd.