Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o wneud y datganiad hwn heddiw am frechu teg, ar yr un pryd â’m gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, Neil Gray, y Gweinidog Datblygu Rhyngwladol.

Ers i frechlyn Covid-19 cyntaf y byd gael ei weinyddu yn y DU fis Rhagfyr 2020, mae dros 139 miliwn o ddosau wedi’u gweinyddu fel rhan o’r rhaglen frechu fwyaf erioed yn hanes y DU. Mae effaith y llwyddiant hwn yn enfawr.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tua 7,000 o farwolaethau a 10,000 o dderbyniadau i’r ysbyty wedi’u hatal o ganlyniad i’r rhaglen frechu. Diolch i lwyddiant ein rhaglen, rydym nawr yn y sefyllfa ffodus yng Nghymru – a ledled y DU – lle gallwn ni symud y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig a dysgu byw’n ddiogel gyda’r coronafeirws.

Serch hynny, mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r pandemig drosodd eto ac mae’n ansicr o hyd sut y gallai’r feirws ddatblygu yn y dyfodol. Mae sicrhau bod brechlynnau ar gael i bawb ym mhobman yn hanfodol i roi diwedd ar y pandemig mor gyflym â phosibl.

Mae cyfraddau brechu ar gyfer dos cyntaf ac ail ddos yn parhau’n isel mewn llawer o wledydd ar draws y byd. Ar 16 Mai 2022, dim ond 13% o bobl mewn gwledydd incwm isel a oedd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19.

Ym Malawi, gwlad sy’n un o bartneriaid Cronfa Datblygu Rhyngwladol yr Alban, dim ond 5% o bobl sydd wedi cael dau ddos. Yn Namibia, lle mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi partneriaeth gref rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, 20% yw’r gyfradd frechu.

Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, heddiw, yn sefyll gyda’n partneriaid yn Ne’r Byd i barhau i fynnu am gynnydd ystyrlon o ran creu’r amodau ar gyfer mynediad teg at frechlynnau Covid-19.

Heb fynediad teg, bydd lefelau uchel o salwch difrifol a marwolaethau yn sgil Covid-19 yn parhau mewn llawer o wledydd. Bydd hyn yn rhoi cryn bwysau ar systemau gofal iechyd, yn amharu ar adferiad economaidd mawr ei angen ac yn rhoi’r bobl fwyaf agored i niwed yn y byd mewn mwy o berygl o fynd i dlodi a newyn.

Heb lefelau brechu uchel ar draws y byd, mae’n bosibl y bydd feirws SARS-CoV-2 yn parhau i fwtadu, croesi ffiniau, ac efallai danseilio effeithiolrwydd ein brechlynnau a’n triniaethau ar gyfer Covid-19, gan gynnwys yma yn y DU. Mae sicrhau mynediad teg at frechlynnau yn rheidrwydd moesol, ond mae hefyd yn hanfodol i sicrhau diogelwch iechyd byd-eang.

Hyd yma, mae rhoddion a chyllid dwyochrog i COVAX wedi bod yn ganolog i’r ymateb byd-eang i’r pandemig. Mae cyfranogiad Llywodraeth y DU yn COVAX wedi bod yn gam pwysig tuag at alluogi gwledydd eraill i gael mynediad at frechlynnau Covid-19. Rydym yn cymeradwyo’r Llywodraeth am yr holl roddion sydd eisoes wedi’u gwneud a’r rhoddion pellach y mae wedi ymrwymo iddynt.

Fodd bynnag, yn fyd-eang, mae cyfraniadau at COVAX wedi syrthio’n fyr o’r ymrwymiadau ariannu cychwynnol. Yn ogystal, mae natur anrhagweladwy’r sefyllfa, a dosau sydd wedi’u danfon yn hwyr, wedi tanseilio ymdrechion i gynllunio’n effeithiol ar gyfer eu gweinyddu mewn llawer o wledydd.

Yn hanfodol, mae rhoi brechlynnau yn annhebygol o gefnogi cynaliadwyedd cadwyn gyflenwi brechlynnau. Dyna pam y mae’n hanfodol ehangu capasiti cynhyrchu i alluogi gwledydd i fod yn hunangynhaliol o ran brechlynnau yn yr hirdymor.

Ar 12 Mai, gwnaeth yr Unol Daleithiau, Belize, yr Almaen, Indonesia, a Senegal gynnal ar y cyd yr ail uwchgynhadledd Covid-19 fyd-eang, i asesu ymdrechion i fynd i’r afael â’r pandemig a nodi camau angenrheidiol i daclo Covid-19. Er i’r uwchgynhadledd sicrhau $3 biliwn mewn ymrwymiadau ariannu newydd, mae’r ffigur hwn yn syrthio’n fyr o’r hyn a amcangyfrifir sydd ei angen i roi diwedd ar y pandemig, sef $31.1 biliwn. Mae’n glir y bydd angen gweithredu’n fwy arloesol ac uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r her ddigynsail hon.

Fel rhan o hyn, mae dros 100 o wledydd wedi galw am atal dros dro rwymedigaethau rhyngwladol sy’n diogelu hawliau eiddo deallusol mewn perthynas â brechlynnau Covid-19. Caiff y rhwymedigaethau hyn eu diffinio o dan Gytundeb ar Agweddau ar Hawliau Eiddo Deallusol sy'n Gysylltiedig â Masnach (TRIPS) Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Byddai eu hepgor dros dro yn caniatáu ehangu mynediad hanfodol at batentau sy’n angenrheidiol i weithgynhyrchu brechlynnau Covid-19 yn ddiogel ac yn effeithlon mewn gwledydd sy’n datblygu. Ac eto, er bod cefnogaeth fyd-eang ar gynnydd, a bod datrysiad cyfaddawdol wedi’i gynnig rhwng yr UE, yr Unol Daleithiau, India a De Affrica, mae grŵp bach o wledydd, y mwyafrif ohonynt yn rhai incwm uchel, gan gynnwys y DU, yn parhau i wrthwynebu hepgor y rhwymedigaethau hyn.

Mae ein datganiad heddiw yn ychwanegu at lythyrau a anfonwyd gan Brif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU fis Rhagfyr 2021 yn ei annog i gefnogi hepgor TRIPS dros dro.

Rydym am ei gwneud yn glir bod ein llywodraethau yn cefnogi hepgor TRIPS dros dro. Bydd hyn yn galluogi amrywiaeth o ran cynhyrchu brechlynnau Covid-19. Mae trafodaethau sy’n mynd rhagddynt yn WTO yn cynnig cyfle i gytuno ar hepgoriad TRIPS cynhwysfawr yn y Gynhadledd Weinidogol fis Mehefin.

Rydym yn erfyn ar Lywodraeth y DU i ollwng ei gwrthwynebiad i hepgor TRIPS a chefnogi’r ymdrech fyd-eang i ddod i gytundeb ystyrlon.

Gallai cytuno i hepgor TRIPS sicrhau bod cynhyrchu brechlynnau hanfodol yn hygyrch i ystod ehangach o wledydd a diogelu biliynau o bobl yn y gwledydd mwyaf agored i niwed yn y byd.

Mae angen cymorth ar wledydd yn Ne’r Byd i ddelio â heriau logistaidd, heriau a allai atal brechlynnau rhag cyrraedd breichiau pobl. Mae ein dwy lywodraeth rhyngddynt wedi darparu dros £7 miliwn i helpu i fynd i’r afael â heriau o’r fath yn y gwledydd yr ydym wedi ffurfio partneriaethau â nhw. Mae hyn yn cynnwys £4.2 miliwn gan Lywodraeth yr Alban i gefnogi mynediad teg at frechlynnau Covid-19 a chymorth therapiwtig yn Zambia, Malawi a Rwanda, a £3.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd, golchi dwylo a gwell mynediad at ocsigen mewn nifer o wledydd yn Affrica Is-Sahara.

Rydym yn annog y gymuned ryngwladol i barhau i roi cymorth technegol a logistaidd fel y gellir darparu a gweinyddu brechlynnau yn effeithlon, yn ddiogel ac yn deg.

Rydym yn erfyn ar bartneriaid byd-eang i flaenoriaethu mynediad teg at frechlynnau Covid-19, rhywbeth a ddylai fod wrth wraidd ein hymateb cyfunol i’r pandemig byd-eang.

Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ollwng ei gwrthwynebiad i hepgor TRIPS. Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i wneud hyn a nawr yw’r amser i weithredu