John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Yn y Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i "weithio tuag at ddwyn Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth ynghyd yn un sefydliad". Yn ystod y 15 mis diwethaf, mae tîm sy'n gweithio ar y rhaglen dan reolaeth swyddogion yn fy Adran i wedi bod yn llunio achos busnes er mwyn archwilio opsiynau gwahanol i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.
Roedd staff o Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn y tîm hwn. Bwrdd rhaglen, a oedd yn cynnwys tri phrif weithredwr y tri chorff yn aelodau gweithredol, oedd yn goruchwylio'r tîm.
Mae'r achos busnes wedi'i gwblhau erbyn hyn ac mae'n cynnwys argymhelliad gan dîm y rhaglen mai'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni'r ymrwymiad yw sefydlu un corff amgylcheddol newydd i Gymru.
Ar ôl rhoi sylw priodol i'r mater, rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Yn unol â hynny, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion lunio rhaglen ffurfiol i reoli'r newid o'r sefyllfa sydd ohoni i adeg rhoi'r corff newydd ar waith. Y dyddiad targed ar gyfer rhoi'r corff ar waith yw 1 Ebrill 2013.
Caiff ymgynghoriad ar swyddogaethau, pwerau a dyletswyddau'r sefydliad newydd ei lansio ddechrau 2012 a bydd yna drafodaeth mewn cyfarfod llawn yn nes ymlaen yn y flwyddyn ar ôl i ni gael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad.