Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein gweithlu addysg, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu haddysgu gan ymarferwyr medrus, hyderus a grymus, sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi yn eu cymunedau.
Adlewyrchwyd hyn yn fy natganiadau diweddar ym mis Ionawr a mis Mawrth. Ynddynt, roeddwn yn tynnu sylw at yr ymrwymiad i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg a pharhad darpariaeth HMS ychwanegol.
I ddechrau datblygu'r dull hwn, rydym wedi bod yn cydweithio â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) er mwyn edrych ar sefyllfaoedd posibl ar gyfer dyfodol addysgu yng Nghymru. Mae creu proffesiwn addysgu ffyniannus yn flaenoriaeth uchel i wledydd yn yr OECD. Heddiw, rwy'n croesawu cyhoeddi adroddiad yr OECD, 'Constructing scenarios for the future of teaching in Wales.' (Saesneg yn Unig).
Mae ein cyfranogiad yn yr astudiaeth ymchwil fyd-eang hon wedi darparu cyfleoedd amhrisiadwy i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ar draws y sector addysg, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd y cyfraniad amhrisiadwy hwn yn llywio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol y proffesiwn addysgu yng Nghymru. Bydd y themâu sy'n dod i'r amlwg o'r adroddiad hwn yn cyfrannu at ein sylfaen dystiolaeth i ddechrau gosod y sylfeini ar gyfer cynllun newydd y gweithlu.
Rhwng 24 a 26 Mawrth, cefais y fraint o fynd i'r 25ain Uwchgynhadledd Ryngwladol ar y Proffesiwn Addysgu (ISTP) yng Ngwlad yr Iâ a gynhaliwyd gan yr OECD, Llywodraeth Gwlad yr Iâ, Undeb Athrawon Gwlad yr Iâ ac Education International.
Daeth yr Uwchgynhadledd â gweinidogion addysg, arweinwyr undebau ac arweinwyr addysg ynghyd o systemau addysg sy'n perfformio'n dda ac yn gwella'n gyflym i rannu arfer gorau. Yn ystod y digwyddiad hwn, cymerais ran mewn sgyrsiau agored ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o wella'r proffesiwn addysgu i ddatgloi potensial pob dysgwr.
Bydd y safbwyntiau amhrisiadwy a gafwyd yn yr Uwchgynhadledd, ynghyd ag adroddiad yr OECD heddiw, yn arwain y camau nesaf i lunio ein cynllun gweithlu hirdymor, i sicrhau bod ein gweithwyr proffesiynol yn barod i ddiwallu anghenion datblygol dysgwyr a chreu system addysg ddeinamig ac ymatebol i Gymru.