Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
Mae Datblygu Strategaeth Ddiwylliant i Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio, sydd yn fy mhortffolio.
Wrth i Gymru ddechrau adfer o effeithiau pandemig Covid-19, ac ar adeg pan fo costau byw cynyddol a rhagolygon ariannol anodd yn effeithio’n andwyol ar les a gwydnwch pobl, rhaid i ni gynnal ffocws ar y meysydd hynny sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau bob dydd pobl. Rydym yn gwybod bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi profiadau diwylliannol a chreadigol, a bod ein sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn cyfrannu at les personol a chydlyniant cymunedol. Rwy'n falch, felly, o allu rhannu diweddariad byr ar gynnydd o ran datblygiad strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru.
Gan weithio gydag aelodau dynodedig Plaid Cymru, rydym wedi cytuno y bydd cwmpas y strategaeth yn cynnwys y celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a'r amgylchedd hanesyddol, a bydd yn edrych ar y ffordd orau y gallwn gefnogi a datblygu'r sectorau hyn yng Nghymru. Dylai'r strategaeth ystyried, ymhlith pethau eraill, rôl diwylliant a'r celfyddydau wrth hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol, cydraddoldeb, dysgu gydol oes a sgiliau, cefnogi datblygiadau digidol yng Nghymru, yr economi ymwelwyr, a'r iaith Gymraeg, ynghyd ag adeiladu gwydnwch i alluogi adferiad effeithiol o'r pandemig ac i gyflawni gofynion Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bydd y Strategaeth yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddiogelu, gwarchod, a hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant, ac asedau a chasgliadau hanesyddol nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yn datblygu dull cynhwysol, cyfannol o gefnogi ein sectorau a bydd yn canolbwyntio ar wella mynediad teg i bob agwedd ar fywyd diwylliannol yng Nghymru a sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan ynddynt. Bydd hefyd yn ceisio gwella gallu sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i ryngweithredu’n agos, fel y gallant gydweithio'n fwy effeithiol, ar draws sectorau ac mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill.
Yn dilyn ymarfer caffael diweddar, mae partner arweiniol wedi’i benodi i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth newydd i’w chyhoeddi yn 2023.
Dros y misoedd nesaf, bydd y contractwr yn ymgymryd â gweithgarwch ymchwil ac ymgysylltu dwys. Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r pedwar corff diwylliannol a noddir, Cadw, sefydliadau sector lleol a phobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn ar lawr gwlad. Bydd y contractwr hefyd yn chwilio am fewnbwn gan gymunedau ledled Cymru, yn enwedig y rhai sydd wedi'u heithrio neu heb wasanaeth digonol yn draddodiadol.
Bydd y gwaith o ddatblygu'r strategaeth yn cael ei gefnogi gan Grŵp Llywio Cyffredinol, a fydd yn craffu ar y cynnydd o ran datblygu'r strategaeth a'i gwerthuso'n feirniadol, gan ddarparu syniadau cysyniadol a her wybodus i Lywodraeth Cymru yn ôl y galw.
Rwy'n canolbwyntio ar sicrhau bod y strategaeth newydd yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn addas i'r diben, a'i bod yn strategaeth fydd yn cael ei chroesawu gan y sectorau diwylliant a threftadaeth a chan bobl Cymru. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Senedd am gerrig milltir arwyddocaol wrth i'r gwaith fynd rhagddo.