Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, ‘Ymddygiad a Phresenoldeb: Ymateb i’r Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb’ , yn cynnwys ymrwymiad i nodi ac argymell strwythur hyfforddi priodol ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg yng Nghymru.

Er mwyn inni allu cyflawni’r ymrwymiad hwn, cafodd  gwaith ymchwil ac ymgynghori ei gomisiynu er mwyn ystyried materion yn ymwneud â chymwysterau mynediad, ymsefydlu, hyfforddiant a safonau ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg. Yn sgil cyflawni’r gwaith hwnnw, yn 2013 comisiynwyd pecyn ymsefydlu ar gyfer y Gwasanaeth, a fydd yn cael ei gyhoeddi eleni.

Hefyd yn yr adroddiad ar y gwaith ymchwil ac ymgynghori, er rhoi sylw i safonau a llu o opsiynau a oedd yn ymwneud â chymwysterau, nid oedd unrhyw gonsensws barn ynghylch pa ddull gweithredu fyddai orau. Ar hyn o bryd, oherwydd y diffyg safonau cyson ar gyfer y sector hwn, nid yw’n ymarferol datblygu cymwysterau a strwythur hyfforddi. Fodd bynnag, pe bai Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu llunio a’u hymgorffori yng ngweithgarwch gweithlu’r Gwasanaeth Lles Addysg, byddai’n bosibl ystyried datblygu cymwysterau a strwythur hyfforddi priodol yn y tymor hir

Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am y gwaith gweinyddu a’r gwariant sy’n ymwneud â datblygu ac adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn y DU. Mae’r Comisiwn yn dyrannu arian i’r Cynghorau Sgiliau Sector a’r Sefydliadau Pennu Safonau priodol i ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ôl yr angen. Felly, yn 2014-15, rydym yn bwriadu gofyn i’r Comisiwn ddechrau ar y gwaith o ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg yng Nghymru.

Fel rhan o’r broses hon, bydd y Cynghorau Sgiliau Sector a’r Sefydliadau Pennu Safonau yn ymgynghori ag awdurdodau lleol, gan mai hwy yw’r cyflogwyr ar gyfer y Gwasanaeth hwn.