Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r Datganiad hwn yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu gwasanaethau i bobl â dementia, gan sicrhau y caiff pobl â dementia yng Nghymru yr help, yr urddas a'r parch sy'n ddyledus iddynt. Byddaf hefyd yn achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i chi ar y cynnydd sylweddol a wnaed wrth nodi'r camau sydd eu hangen i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae tua 37,000 o bobl yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Gwyddom y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i ofalwyr, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus eraill a chymdeithas yn ehangach.
Fis diwethaf, lansiais Weledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia, sydd â'r nod o sicrhau bod gan Gymru gymunedau sy'n cefnogi pobl â dementia. Cymunedau sy'n rhoi llais i bobl â dementia, lle mae gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion y gymuned y maent yn anelu at ei gwasanaethu. Mae'n amlinellu'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a'n partneriaid yn eu gwneud i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y gwaith o gyflawni'r ymrwymiadau yn y ddogfen weledigaeth, ac erbyn 2012 bydd y rhain wedi'u cyflawni.
Hefyd, lansiais linell gymorth a gwefan dementia benodedig, sy'n cynnig cymorth emosiynol a chyngor i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ddementia, neu i berthnasau a gofalwyr pobl â dementia. Rwyf wedi ariannu cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru sy'n sicrhau bod llyfrau ar gael i bobl â dementia a'u gofalwyr ym mhob llyfrgell yng Nghymru, ac wedi cytuno i ariannu pecynnau gwybodaeth am ddementia i bobl sydd wedi cael diganosis o ddementia gyda Chymdeithas Alzheimers.
Yn ogystal â hyn, y llynedd darparais gyllid rheolaidd newydd o £1 miliwn y flwyddyn i sefydlu adnoddau a chydgysylltwyr dementia penodedig ychwanegol mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn, a £0.5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau Dementia Cynnar newydd ledled Cymru. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cytuno ar gynigion a bod BILlau, gyda'u partneriaid, yn gweithio i weithredu'r gwelliannau hyn.
Ysgrifennais atoch ym mis Gorffennaf 2010, gan ddisgrifio sut roeddwn wedi gwneud y GIG yn gyfrifol am sicrhau newid go iawn i bobl a oedd wedi cael diagnosis o ddementia a'u gofalwyr. Eglurais y bydd Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl bellach yn rhoi cyfeiriad ac arweiniad er mwyn ysgogi'r newidiadau hyn, ac y bydd Byrddau Iechyd Lleol, o fewn Targedau Blynyddol y Fframwaith Ansawdd, yn gweithredu'r Targedau Deallus ar gyfer dementia. Bydd y targedau Deallus yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau gan gynnwys lleihau'r amser rhwng y symptomau cyntaf a'r diagnosis, ansawdd y gofal ar wardiau ysbytai cyffredinol ac mewn unedau cleifion dementia, gwella arfer o ran rhoi presgripsiynau i bobl â dementia a gwella a chefnogi ansawdd bywyd i ofalwyr pobl â dementia.
Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl sy'n ysgogi'r agenda hon, gan sicrhau'r momentwm i wella'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau. Gwnaed cynnydd da hyd yn hyn; bellach mae is-grŵp Dementia o Fwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl wedi'i sefydlu.
Nod arall yw gwella adnoddau hyfforddi ac arbenigedd y rhai sy'n gweithio gyda chleifion dementia i wella arfer, a gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd pobl â dementia a'u gofalwyr. I'r diben hwnnw, neilltuwyd £400,000 yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn gwella gwybodaeth a hyfforddiant o ran dementia. Caiff amrywiaeth o hyfforddiant ei ddarparu i amrywiaeth o bobl, fel staff teleofal, gofalwyr yn y teulu, meddygon teulu, ac mewn ysbytai cyffredinol, cartrefi gofal a lleoliadau cymunedol.
Ysgrifennodd fy Nghyfarwyddwr Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio at bob un o Brif Weithredwyr y BILlau am ofal dementia mewn ysbytai cyffredinol ar 8 Chwefror. Trafododd Dr Chris Jones ofal pobl â dementia ar wardiau ysbytai gyda phob un o gyfarwyddwyr meddygol GIG Cymru ar 4 Mawrth. Cytunwyd i weithio gyda'r agenda hyfforddiant dementia a sicrhau y gofelir am bobl â dementia ag urddas a pharch ym mhob lleoliad, yn arbennig ar wardiau ysbytai cyffredinol, lle mae problem ychwanegol problemau iechyd corfforol yn gwneud unigolion hyd yn oed yn fwy agored i niwed, a bod angen mwy o ofal a sylw arnynt.
Ar gyfer pobl hŷn â dementia yn arbennig, mae gallu aros yn eu cartref eu hunain mewn amgylchedd cyfarwydd, os yw hynny'n bosibl, yn rhoi tawelwch meddwl iddynt. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hyn i bobl hŷn yng Nghymru ac mae'n darparu cyllid o £4.9 miliwn yn 2010/11 a £4.7 miliwn yn 2011/12 ar gyfer Gofal a Thrwsio, sy'n cynorthwyo pobl hŷn i wneud gwelliannau i'w cartrefi, a fydd yn eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain. Ynghyd â chynlluniau tai Gofal Ychwanegol sy'n darparu gofal 24 awr ac yn cynnig y potensial i ddiwallu anghenion pobl â dementia, nad yw'n bosibl mewn mathau o dai sydd â llai o gymorth, mae'r dull hwn bellach yn darparu mwy na 867 o gartrefi lle gall pobl barhau i fyw'n annibynnol, a hynny mewn 18 o gynlluniau, sy'n rhywbeth y gallwn ymfalchïo ynddo. Mae 18 o gynlluniau eraill wrthi'n cael eu datblygu neu ar gam cynllunio datblygedig, sy'n rhoi cyfanswm o 1,600 o gartrefi.
Cyflawnwyd yr holl waith hwn drwy weithio mewn partneriaeth, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses gan gynnwys y rhai a weithiodd ar y grwpiau arbenigol. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhai sy'n parhau i roi gofal tosturiol i bobl â dementia, gan weithio'n ddyfal i roi profiad gwell o ofal i unigolion a'u teuluoedd, a all fyw bywydau sy'n llawn posibiliadau er gwaethaf y salwch hwn.
Mae mwy i'w wneud o hyd, ond gallaf eich sicrhau fy mod yn ymrwymedig i barhau i weithio mewn partneriaeth a rhoi arweiniad i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'r buddsoddiad ariannol ychwanegol, sefydlu Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl a phennu targedau clir i ysgogi hyn, ynghyd â lansio'r ddogfen Weledigaeth, yn dangos fy ymrwymiad i ac ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.