Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Hoffwn roddi gwybod  i Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi  penderfynu datblygu Fframwaith Strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg o fewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r Fframwaith yn cadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth  i gryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr a’u teuluoedd.

Fel Cadeirydd y Tasglu a sefydlwyd  i gryfhau’r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, rwyf yn falch i ddweud  fod y sefyllfa yn raddol wella o fewn y ddau sector. Mae’r ddau sector yn  ceisio ymateb i ddewis iaith defnyddwyr  a chwrdd â’u gofynion statudol. Er gwaethaf hynny rwyf  yn credu nad  oes digon yn cael ei wneud i ystyried angen iaith defnyddwyr, fel rhan greiddiol o gynllunio a darparu gofal.

Mae  nifer fawr o ddefnyddwyr  y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol  yn fregus - mae  rhoi  cyfrifoldeb arnynt i ofyn am wasanaeth Cymraeg yn annheg, a gall ychwanegu at eu gofidiau. Cyfrifoldeb y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cymwys, ac wrth gwrs mae hyn  yn  cynnwys anghenion ieithyddol. Dim ond wrth wneud hyn y gallant sicrhau gofal diogel ag  effeithiol.

Mae’r ffaith fod rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn gallu siarad Saesneg, ddim  yn newid y ffaith fod angen gwasanaethau cyfrwng Cymraeg arnynt er mwyn gallu cyfleu gofidiau, trafod materion personol iawn, neu fynegi eu hunain  yn effeithiol.   Mae’n hanfodol fod darparwyr yn deall fod derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y  Gymraeg yn  greiddiol i ofal llawer o bobol, nid dim ond mater o ddewis iaith
 
Rwyf  felly am sicrhau fod  camau yn cael eu cymryd gan y ddau wasanaeth i sicrhau fod  anghenion ieithyddol yn cael eu prif ffrydio i gynlluniau gofal, ac yn arbennig felly o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, anabledd dysgu, plant a phobl hŷn
 
Er bod gwellhad wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf yn ymwybodol  fod llawer o waith  ar ôl i’w wneud. Mae’n amlwg hefyd fod yna wahaniaethau yn y ddarpariaeth, ac yn rhy aml mater o hap a damwain i’w derbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg i nifer o bobol.

Er mwyn mynd i’r afael a hyn mae’r Gweinidog Iechyd a finnau wedi penderfynu  datblygu Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd gobeithio yn  cryfhau’r ddarpariaeth, a sicrhau cydweithio effeithiol ar draws y  ddau sector. Mi fydd ffocws y gwaith ar ddatblygu gwasanaethau rheng flaen, er mwyn gwella  profiad  defnyddwyr a’u teuluoedd.

Rwyf yn falch iawn fod trafodaethau efo’r gwasanaeth iechyd wedi cadarnhau’r angen  am strategaeth, a bod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cefnogi’r gwaith.       


Felly rwyf wedi sefydlu Grŵp Llywio i ymgymryd gyda’r gwaith o

  • ddatblygu fframwaith strategol dair blynedd, gan ganolbwyntio yn arbennig ar gryfhau gwasanaethau rheng flaen, er mwyn gwella profiad defnyddwyr
  • adolygu rôl  Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau datblygiad gwasanaethau cyfrwng Cymraeg o fewn y ddau sector

Mae’r grŵp llywio yn cael ei gadeirio gan berson annibynnol, Mr Graham Williams, a’r aelodaeth yn dod o’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, partneriaid, defnyddiwr ac academia.

Rwyf wedi gofyn i’r grŵp  ddatblygu’r  fframwaith yn ystod y flwyddyn yma, gyda’r bwriad o’i gweithredu  o Ebrill 2012 ymlaen.

Mi fydd y Fframwaith yn rhoi cyfle  i’r ddau wasanaeth edrych eto ar sut maent yn prif ffrydio’r iaith Cymraeg yn feunyddiol o fewn eu cynlluniau a gwasanaethau ,er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gofal effeithiol, a diogel  i Gymry Cymraeg.

Mae’r gwaith yma’n amserol iawn o gofio hanfodion y Mesur Iaith newydd a’r system rheoleiddio newydd fydd yn cael ei gyflwyno gan  y Comisiynydd Iaith newydd.