Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf am i addysgu fod yn ddewis cyntaf i bobl wrth ystyried gyrfa, er mwyn inni allu denu'r goreuon. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i'r addysg gychwynnol rydym yn ei chynnig i athrawon fod yn iawn.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw bod cryn gynnydd wedi'i wneud o ran ein rhaglen ddiwygio, gan gynnwys cyhoeddi Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru: Addysgu Athrawon Yfory.

Mae'r Meini Prawf Achredu newydd, ynghyd â'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, yn adlewyrchu uchelgais sy'n gyffredin i lawer a balchder yn y proffesiwn. O addysg gychwynnol athrawon, i mewn i'r ystafell ddosbarth, ac i ddysgu proffesiynol gydol gyrfa, mae ein dull gweithredu cenedlaethol yn canolbwyntio ar sicrhau a datblygu ymhellach broffesiwn addysgu o safon uchel.

Mae Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru: Addysgu Athrawon Yfory yn egluro ein disgwyliadau - ein gofynion - ar gyfer newidiadau sylfaenol.  

1. Rôl fwy i ysgolion;

2. Rôl gliriach i brifysgolion;

3. Cydberchnogaeth o ran rhaglen addysg gychwynnol athrawon;

4. Cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysg ysgolion a phrifysgolion;

5. Rôl ganolog gwaith ymchwil

Rwy'n benderfynol o sicrhau bod AGA yng Nghymru yn cael ei chryfhau drwy system wirioneddol gydweithredol, lle mae prifysgolion ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gref, gyda chefnogaeth y consortia, gan gydnabod pwysigrwydd gwaith ymchwil.

Rwyf wedi datgan yn glir y bydd tystiolaeth ac arferion gorau rhyngwladol yn helpu i lywio ein gwaith diwygio. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi trefnu gweithdy rhyngwladol, gan weithio gyda ni ar gryfhau'r capasiti ar gyfer addysgeg sy'n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth yng Nghymru. Caiff gweithdai eu cynnal yng Nghaerdydd rhwng 15 ac 17 Mawrth 2017.

Mae'n hanfodol ein bod yn meithrin mwy o gapasiti i wneud gwaith ymchwil ym maes addysg athrawon, ar lefel ysgolion ac ar lefel darparwyr hyfforddiant. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi cynnull grŵp o ymchwilwyr rhyngwladol i'n helpu i ddatblygu Fframwaith a fydd yn darparu strwythur gweithredu ymarferol ar sail egwyddorion addysgeg cryf sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhaglenni AGA.

Bydd gweithdai'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r gwaith o lunio Fframwaith yn cefnogi Partneriaethau AGA i greu cymuned ddysgu fywiog, sy'n cydweithredu i gefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil. Mae hyn yn hollbwysig wrth gefnogi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr cymwys, meddylgar, myfyriol ac arloesol sy’n ymroi i ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion/myfyrwyr.

Rwyf o'r farn y bydd grymuso Cyngor y Gweithlu Addysg i achredu rhaglenni AGA unigol, drwy sefydlu Pwyllgor Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ("y Bwrdd") yn golygu bod modd ystyried yn fwy penodol sut y bydd y rhaglenni yn codi safon y ddarpariaeth - gan ddenu'r bobl iawn i'r proffesiwn, sydd â'r sgiliau iawn, y cymwysterau a'r ddawn i addysgu.

Rwyf wrth fy modd yn cael dweud bod swyddi Cadeirydd a Dirprwy Gadeiryddion 'Bwrdd' Cyngor y Gweithlu Addysg wedi'u cyhoeddi bellach, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2017.

Mae penodi Cadeirydd a dau Ddirprwy Gadeirydd sydd â hygrededd ac sydd o safon uchel yn hanfodol a bydd yn sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer proses achredu o ansawdd gyda'r trylwyredd a'r cymorth angenrheidiol, i sicrhau y caiff pob rhaglen AGA ei hadolygu'n drwyadl ac yn briodol yn y dyfodol.  
Rwy'n benderfynol na allwn aros am y newidiadau hyn ac na ddylem aros. Er mai o fis Medi 2019 y caiff rhaglenni newydd AGA eu gweithredu, rwy'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol nawr. Mae fy Fforwm Arbenigwyr AGA wedi darparu adborth manwl i'r partneriaethau yn dilyn eu mynegiant o ddiddordeb.  Dyma'r camau nesaf:

• Y partneriaethau i sicrhau bod y rhaglenni AGA wedi cael eu dilysu'n academaidd cyn eu cyflwyno i Fwrdd Cyngor y Gweithlu Addysg i'w hachredu'n broffesiynol
• Y partneriaethau i gyflwyno eu rhaglenni i Fwrdd Cyngor y Gweithlu Addysg i'w hachredu erbyn 1 Rhagfyr 2017
• Bwrdd Cyngor y Gweithlu Addysg i sefydlu p'un a yw'r rhaglenni yn cynnig paratoad proffesiynol perthnasol i athrawon dan hyfforddiant, gan sicrhau y byddant yn bodloni safonau Statws Athro Cymwysedig y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
• Bwrdd Cyngor y Gweithlu Addysg i roi gwybod i'r partneriaethau o'u penderfyniad ym Mehefin 2018, a chaiff rhaglenni AGA newydd eu marchnata i ddarpar fyfyrwyr o haf 2018

Bydd angen i bob athro ddatblygu'r sgiliau addysgu ac asesu iawn i'w galluogi i ddefnyddio'r cwricwlwm newydd i gefnogi eu dysgu a'u haddysgu yn llwyddiannus.  Gan gyfuno hyn â sgiliau cydweithredu, arloesi ac arweinyddiaeth, byddwn yn datblygu athrawon ac arweinwyr myfyriol, hynod effeithiol, sydd wedi ymrwymo i'w twf proffesiynol eu hunain a thwf proffesiynol eu cydweithwyr.

Mae'n rhaid i'n rhaglenni AGA gynnig y sgiliau a'r wybodaeth ofynnol i athrawon y dyfodol, ac ennyn y dymuniad ynddynt i arwain y newid sy'n ofynnol; y meini prawf newydd a gyhoeddwyd heddiw, Bwrdd Cyngor y Gweithlu Addysg, penodi'r Cadeirydd a'r Dirprwyon, a'r Fframwaith yw'r elfennau a fydd yn helpu i wireddu hyn.

http://learning.gov.wales/resources/browse-all/initial-teacher-education-accreditation-criteria/?lang=cy
1Rhagwelir y bydd holl raglenni AGA y dyfodol yn cael eu harwain gan ‘bartneriaeth’, sef Sefydliad Addysg Uwch sy'n cydweithio’n agos â nifer o ‘ysgolion partneriaeth arweiniol’.   Y bartneriaeth hon fydd yn paratoi'r rhaglenni AGA i gael eu hachredu
2 https://cymru-wales.tal.net/vx/appcentre-3/brand-2/candidate/so/pm/1/pl/8/opp/3028-Deputy-Chair-Initial-School-Teacher-Training-Committee/en-GB
https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/so/pm/1/pl/8/opp/3028-Deputy-Chair-Initial-School-Teacher-Training-Committee/en-GB   
https://cymru-wales.tal.net/vx/appcentre-3/brand-2/candidate/so/pm/1/pl/8/opp/3027-Chair-Initial-School-Teacher-Training-Committee/en-GB   
https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/so/pm/1/pl/8/opp/3027-Chair-Initial-School-Teacher-Training-Committee/en-GB