Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad diweddaru ar y cynnydd rydym wedi'i wneud i ddatblygu caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Mae hyn yn deillio'n bennaf o'r adroddiad a gyhoeddwyd gennym fis Mawrth diwethaf yn nodi'r cynnydd a wnaed i gyflawni Datganiad Ysgrifenedig Caffael 2018 ac ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog, yn ogystal ag amlinellu'r daith yr oedd y proffesiwn caffael yn ei dilyn.

Mae'r daith wedi parhau dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, gan fod y proffesiwn hefyd wedi gorfod addasu i ganlyniadau pellgyrhaeddol ymadawiad y DU â'r UE a phandemig Covid-19, mae'n dda cymryd cam yn ôl a gweld pa mor bell rydym wedi dod a faint rydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd.

Hoffwn ddiolch i'r gymuned gaffael ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru am y ffordd y cododd i her y pandemig, ei hymateb i ymadawiad y DU â'r UE ac am ei holl waith caled dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae'r pandemig wedi dangos na fu darparu caffael effeithiol, cynaliadwy sy'n aml yn fater brys i ddarparu gwaith, nwyddau a gwasanaethau hanfodol erioed yn bwysicach.  Yr wyf yn falch o faint yr ydym i gyd wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, darparu, er enghraifft, nwyddau hanfodol sy'n achub bywydau megis cyfarpar diogelu personol a nwyddau gwella bywyd fel podiau ar gyfer ymwelwyr i gartrefi gofal.

Yn y cyd-destun hwn, rydym hefyd yn gweithio'n galed i gyflawni ar y cyd yn erbyn nifer o flaenoriaethau polisi blaengar megis datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, manteision cymunedol, gwaith teg, yr economi gylchol a'r economi sylfaenol.

Yr allwedd i gyflawni ein llwyddiannau fu drwy gydweithio â'n rhanddeiliaid a'n partneriaid.  Rydym wedi adeiladu ar berthnasoedd sy'n bodoli eisoes a rydym hefyd wedi dysgu oddi wrth eraill; gan gymryd adborth i gynhyrchu Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) newydd 2021 a gyhoeddwyd gennym yn gynharach y mis hwn.  Mae'r Datganiad Polisi yn pennu y weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhoi egwyddorion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth wraidd ein dull caffael.

Bydd parhau i gydweithio yn allweddol i gyflawni'r Datganiad. Wrth i ni ystyried argymhellion adolygiad Adran 20 diweddar Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol o Gaffael, rydym yn awyddus i edrych ar gyfleoedd pellach i adeiladu model cydweithredol cryfach ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru, a byddwn yn edrych sut y gallai hynny weithio gyda'n partneriaid.

Gobeithio y bydd yr adroddiad yn ddefnyddiol ichi a'i fod yn eich helpu i ddeall y daith yr ydym arni, i pa mor bell rydym eisoes wedi teithio a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud o hyd.