Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn rhoi y newyddion diweddaraf i chi ar ddatblygiadau y Broses Adolygu Technegol a sefydlais i alluogi ffermwyr i apelio am eu rhanbarth talu ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol.  Sefydlwyd y broses hon i alluogi ffermwyr i wneud cais i'w tir gael ei ail-ddosbarthu os oeddent yn teimlo ei fod wedi'i ddosbarthu'n anghywir at ddibenion talu. Mae'n bwysig i mi sicrhau bod rhanbarthau talu yn gywir pan fydd y Cynllun Taliad Sylfaenol yn dechrau'r flwyddyn nesaf.  

Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd y byddai Cynllun Taliad Sylfaenol newydd Colofn 1 y PAC yn seiliedig ar dir ffermydd yn cael eu hail-ddosbarthu yn dri rhanbarth talu: Rhostir, Ardal dan Anfantais Fawr, ac Ardal dan Anfantais ac Iseldir wedi'u cyfuno yn rhanbarth o'r enw 'Tir Arall'.     Roedd y rhain yn cydnabod nodweddion amaethyddol gwahanol fel sylfaen ar gyfer system dalu ranbarthol.  Gan bod rhywfaint o'r tir yn y rhanbarth Rhostir wedi'i wella'n amaethyddol, cafodd ei gyfyngu trwy ddileu pob tir a ddosbarthwyd yn 1992 fel Rhostir o dan 400 metr a ailddosbarthwyd fel Ardal dan Anfantais Fawr.  Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhywfaint o'r tir oedd wedi'i wella yn parhau yn Ranbarth Rhostir a bod angen cyfle i ffermwyr ofyn iddo gael ei ailddosbarthu.  Aeth y broses adolygu technegol i'r afael â hyn drwy ganiatáu i ffermwyr ofyn i unrhyw rannau o'u tir gael eu hailddosbarthu os yw'n amlwg bod  yn bodloni diffiniad o ranbarth talu arall.  


Mae dau Gam i'r broses.  Cafodd Cam 1 ei gwblhau drwy dynnu llyniau o'r awyr a defnyddio codau cnydau, gan gynnig proses syml i hawlwyr gyda cyn lleied â phosib o fewnbwn.  Gwnaeth cyfanswm o 299 o ffermwyr gais i'r broses gan olygu dros 30,000 hectar o dir.  Mae pob ymgeisydd wedi derbyn eu llythyrau penderfyniad.  Rydym wedi ailddosbarthu pob parsel tir ar gyfer 13 o ffermwyr, a rhai parseli tir ar gyfer 32 o ffermwyr eraill.  Cafodd 254 o ffermwyr eu gwrthod, ac maent yn gymwys ar gyfer Cam 2.  


Gall hawlwyr sydd wedi'u gwrthod am barseli tir ar Gam 1 wneud cais i Gam 2.  Mae'r rhan yma o'r broses yn galw am adroddiad ar arolwg cae manwl gan swyddog CIEEM. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi asesiad llawn o'r tir fydd yn cael ei ystyried gan banel arbenigol. Bydd y panel hwn yn cynnwys arbenigwr technegol o Lywodraeth Cymru, Dr Ian Rugg, a chynrychiolydd sy'n cael ei enwebu gan randdeiliaid y diwydiant, Dr Iwan Owen, a gweithiwracademaidd ym maes agronomeg, Dr Mariecia Fraser.  Bydd y panel yn ystyried adroddiad y tir, ac yn seiliedig ar yr adroddiad hwn, yn gwneud argymhellion y byddaf yn eu hystyried er mwyn penderfynu a ddylid ailddosbarthu'r parsel tir.    


Yr hawlydd sydd i benderfynu a ydynt yn defnyddio Cam 2 y broses.  Ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i'r cam hwn yn awtomatig yn dilyn eu penderfyniad ar Gam 1.  Bydd y llythyrau penderfyniad yn rhoi eu hopsiynau iddynt a gallant benderfynu yn seiliedig ar hyn.  Rwy'n cydnabod bod costau'n gysylltiedig â'r adroddiad tir manwl.  Rwyf wedi penderfynu ad-dalu hyd at £1500 (gan gynnwys TAW) o'r gost hon ar gyfer hawliadau llwyddiannus.  Penderfynais ar y ffigur hwn gan fy mod am ddefnyddio lefel o ad-daliad sy'n sicrhau bod cydbwysedd rhwng manteision penderfyniad llwyddiannus i'r hawlydd, a sicrhau fy mod yn cael y gwerth gorau o arian cyhoeddus.  

Fy ngobaith a'm cred yw y bydd y broses hon yn mynd i'r afael â phob hawliad rhesymol i ailddosbarthu a bydd yn cael ei gwblhau mewn da bryd i weithredu Cynllun Taliad Sylfaenol 2015.