Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â sut mae Cymru yn bwriadu elwa ar y broses o ddatblygu technolegau newydd ar gyfer profi am COVID-19.

Gallai technolegau newydd ei gwneud yn bosibl profi ar raddfa llawer uwch, yn amlach ac yn gyflymach. Mae’r datblygiadau hyn o bosibl yn cynnig arfau ychwanegol inni yn ein hymateb i’r pandemig ac yn adeiladu ar ein system brofi PCR presennol.

Gallai technolegau profi newydd:

  • ein galluogi i gadw gwyliadwriaeth ar iechyd y boblogaeth
  • ein galluogi i fod yn fwy gweithredol wrth ddod o hyd i achosion
  • lleihau amseroedd dychwelyd canlyniadau, gan ganiatáu i’r broses olrhain cysylltiadau ddechrau’n ddi-oed er mwyn sicrhau bod cysylltiadau’n cael eu hynysu’n gynt
  • defnyddio profion mwy rheolaidd fel ffordd o sicrhau bywyd mwy normal tra'n atal trosglwyddiad yr haint.

Mae angen inni fanteisio i’r eithaf ar yr hyn y gall y technolegau newydd hyn ei gynnig, mewn ffyrdd sicr a diogel sy’n helpu i gyflawni ein nodau cyffredinol o achub bywydau a bywoliaethau.

Ynghyd â’r Llywodraethau Datganoledig eraill, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu’r technolegau newydd fel rhan o’r rhaglen profi torfol. Bydd Cymru yn cael canran a’r sail boblogaeth o’r technolegau newydd a fydd ar gael o dan y rhaglen. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn cynnal peilot ac yn defnyddio technoleg newydd a fydd yn ychwanegu gwerth ac yn cynnig y manteision mwyaf.

Wrth ystyried y defnydd priodol i Gymru, rhai o’r metrigau pwysig ar gyfer technolegau newydd yw sensitifrwydd a phenodolrwydd. Ystyr sensitifrwydd yw’r siawns y bydd y prawf yn rhoi canlyniad negatif anghywir ac ystyr penodolrwydd yw’r siawns y bydd yn rhoi canlyniad positif anghywir. Pethau eraill i’w hystyried wrth gynllunio i ddefnyddio’r technolegau hyn yw’r broses ddilysu a dealltwriaeth o effaith y system o’r dechrau i’r diwedd.

Mae’r rhaglen profi torfol yn cynnwys nifer o ddatblygiadau labordy. Mae’r dechneg LAMP yn mwyhau RNA ac yn caniatáu i’r  feirws gael ei ganfod, yn gynt na’r system brofi PCR fel arfer, er nad yw mor gywir â’r system honno. Yn ogystal â hynny, mae modd cynnal profion cyflymach gan ddefnyddio dyfeisiau pwynt gofal a llif unffordd.

Mae un o’r datblygiadau labordy yn y rhaglen ar gyfer y DU gyfan yn darparu labordy gweithredol, lled-barhaol sydd wedi’i staffio’n llawn mewn cynhwysydd sy’n gallu prosesu hyd at 10,000 o brofion bob dydd. Mae gan Gymru un o’r rhain ar gyfer y cam cyntaf yn y broses o’u cyflwyno a bydd yn cael ei lleoli yn Safle Profi Rhanbarthol Glannau Dyfrdwy. Disgwylir y bydd yn cael ei lansio’n dawel, yn amodol ar gwblhau’r broses ddilysu yn llwyddiannus, ddechrau mis Rhagfyr.

Mae dyfeisiau Pwynt Gofal yn defnyddio technoleg mewn peiriant bach (maint bocs esgidiau) sy’n gallu prosesu profion yn gyflym ac yn agos at y claf. Rydym yn gweithio gyda Llywodraethau eraill y DU i ddilysu dyfeisiau pwynt gofal y gellir eu defnyddio o bosibl yng Nghymru.

Mae dyfeisiau llif unffordd fel arfer yn golygu cymryd swab o’r trwyn a/neu’r gwddf neu sampl o boer a darllenir y canlyniadau mewn ffordd debyg i brofion beichiogrwydd cartref. Maent yn llai sensitif na’r profion PCR ond gallant fod yn effeithiol wrth nodi unigolion heintus. Er nad ydynt mor gywir â’r profion PCR, maent yn cynnig canlyniadau yn y man lle rhoddir gofal mewn llai nag awr, gan gynnig cyfle i gynnal profion gwyliadwriaeth a phrofion torfol rheolaidd ar grwpiau penodol, gyda chanlyniadau cyflym. Os gellir cyflwyno’r profion hyn yn llwyddiannus, rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda’r sector gofal cymdeithasol i ystyried ym mha ffyrdd y gellid defnyddio’r profion i ddatblygu’r cynlluniau peilot presennol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol symudol sy’n teithio rhwng cartrefi pobl ac ymweliadau cymorth gan deulu a ffrindiau yn y sector cartrefi gofal.

Mae nifer o gynlluniau peilot sy’n defnyddio’r dechnoleg newydd wrthi’n cael eu datblygu neu ar fin cael eu cyflwyno, gan ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd, o dan raglen y DU. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gynllunio cyfleoedd yn ddi-oed i gynnal cynlluniau peilot yng Nghymru sy’n caniatáu inni brofi dyfeisiau llif unffordd, nodweddion lefel uchel y modelau cyflawni a’r gwaith o reoli achosion positif ym mhob lleoliad. Bydd y cynlluniau peilot hefyd yn ein galluogi i ystyried ymarferoldeb y gyfradd brosesu, ymgysylltu â phrofion, dulliau cyfathrebu, cyflenwi a logisteg, mesur profiad y defnyddiwr ac yn bwysig iawn, yn ein galluogi i arsylwi ar ymddygiad positif a negyddol pobl sy’n gysylltiedig â sgrinio rheolaidd.

Mae llawer iawn o waith i’w wneud i sicrhau y gallwn elwa ar y manteision o ddefnyddio’r technolegau hyn a lleihau unrhyw effeithiau anffafriol posibl.  Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd ynglŷn â’r cynnydd yr ydym yn ei wneud.