Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Clymog Japan yw un o'r chwyn sy'n ymledu fwyaf ym Mhrydain.  Gall dyfu hyd at fedr y mis a gall wthio drwy darmac a chondrid.  Mae yr effaith a gaiff ar rywogaethau brodorol yn aml yn niweidiol iawn, gan ei fod yn tyfu'n gyflymach na rhywogaethau cynhenid, gan orchuddio darnau mawr o dir, a difa unrhyw blanhigion brodorol a'r anifeiliaid sy'n gysylltiedig â hwy.  

Mae'r clymog Siapan yn anodd ac yn ddrud i'w reoli ac rwy'n hynod ymwybodol o'r problemau y mae'n eu hachosi i berchnogion tai a thir, yn enwedig yn Ne Cymru.  Mae angen atebion arloesol i fynd i'r afael â hyn, a dyna paham rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU wedi bod yn edrych a fyddai rheoli naturiol yn ddull ymarferol o reoli'r broblem hon yn y tymor hir mewn dull gynaliadwy.  Mae'r ymchwil gwyddonol cysylltiedig yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol (CABI) a astudiodd dros 200 o bryfed a ffwng sy'n bwydo ar y planhigyn yn y math brodorol yn Nwyrain Asia.  O'r gwaith ymchwil cychwynnol hwn, nodwyd bod y llysleuen Aphalara itadori sy'n sugno sudd y ffordd orau o helpu i reoli'r clymog ym Mhrydain.  

Wedi sicrhau'r caniatâd angenrheidiol, cafodd y llysleuod cyntaf eu rhyddhau ar y ddau safle yng Nghymru, ac mewn nifer o safleoedd yn Lloegr yn ystod gwanwyn 2011, ac mae rhagor wedi eu rhyddhau'n gyfnodol wedi hynny.  Mae'r prosiect yn ei bedwaredd blwyddyn allan o bump ar hyn o bryd, ac mae'n cael ei fonitro yn fanwl, gan gynnwys samplo, ymweliadau â safleoedd a chofnodi.

Ers rhyddhau'r planhigyn cyntaf yn 2011, ychydig o drwch o blanhigion hŷn sydd wedi'u canfod ar rai o'r safleoedd ble y cafodd y llysleuen ei rhyddhau, gan ddangos gaeafu llwyddiannus.  Fodd bynnag, hyd yma, mae'r organeb wedi cael trafferth i sefydlu poblogaethau hunan-gynhaliol, ac felly eleni bydd CABI yn cynnal treialon maes mewn cewyll fydd yn cael eu cynnal ar yr un pryd â'r prif dreialon.   Bydd y treialon mewn cewyll yn golygu rhyddhau nifer fwy i sefydlu poblogaethau mwy dwys, gyda'r nod o ddifrodi'r clymog yn effeithiol.    

Nid yw rheoli naturiol yn ffordd gyflym o ddatrys y broblem a gall gymeryd tipyn o  amser i weld y mantesion llawn.  Mae profiad ledled y byd wedi dangos bod bio-reoli y rhan fwyaf o rywogaethau yn cymeryd rhwng pum a deng mlynedd o'r cyfnod y caiff y llysleuen ei rhyddhau am y tro cyntaf, tan dod i sefyllfa o reolaeth sylweddol.  Mae'r arwyddion cynnar yn galonogol ar gyfer sefydlu'r llysleuen hynod arbenigol hon.  Er gwaethaf y tywydd gwael dros yr haf ers ei rhyddhau, mae'r llysleuen wedi dangos y gall oroesi mewn niferoedd bychan a gaeafu yn y gwyllt yma.  Yr her nesaf ar gyfer y prosiect yw annog y llysleuen i oroesi mewn niferoedd mwy sy'n gallu rheoli mwy.  

Byddai llwyddiant y prosiect hwn yn rhoi manteision niferus i Gymru o ran defnyddio llai o chwynladdwyr, a llai o gost o ganlyniad i hynny, gan nad oes angen gwario mwy unwaith y bydd y llysleuen wedi sefydlu a'i bod yn ddull cynaliadwy o reoli.  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi treialon dros ddwy flynedd ym Mhrifysgol Abertawe, gan edrych ar reoli'r clymog yn gemegol.  Mae'r treialon maes hyn y mwyaf o'u bath erioed yn Ewrop a Gogledd America, a dylent roi gwybodaeth ychwanegol i helpu i reoli'r chwyn hwn.