Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Yn 2017-18, rydym yn darparu dros £110 miliwn o ryddhad ardrethi i fusnesau bach. Bydd ein cynllun parhaol yn cynnal y lefel hon o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Yn unol â'n hegwyddorion treth, bydd y cynllun newydd yn targedu'r cymorth yn fwy effeithiol tuag at y busnesau hynny sydd ei angen fwyaf, yn cefnogi swyddi a thwf ac yn cyflawni manteision ehangach i'n cymunedau lleol.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn am ailgyfeirio rhyddhad o fusnesau penodol, megis cadwyni cenedlaethol sy'n meddiannu sawl eiddo bach ledled Cymru, i gefnogi busnesau a fyddai'n elwa mwy ar hyn. Byddai hyn yn rhyddhau cyllid y byddai modd ei ailfuddsoddi gan wneud y rhyddhad yn fwy hael i fusnesau bach yn cynnwys siopau lleol, caffis a bwytai sydd o bosibl yn gweithredu o un neu ddau safle yn unig.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ystyried sut y gellid defnyddio'r cynllun parhaol i gefnogi amcanion ehangach Llywodraeth Cymru, gyda'r opsiwn i ddarparu rhyddhad ychwanegol i ddiwydiannau neu sectorau penodol, megis gofal plant, lle dylai fod mae sail dystiolaeth gadarn i wneud hynny. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cyflwyno cyfres o bosibiliadau hirdymor ar gyfer aliniad pellach rhwng y buddsoddiad sylweddol mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac amcanion ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae ardrethi annomestig yn codi dros £1 biliwn y flwyddyn yng Nghymru. Caiff yr holl gyllid ei ailddosbarthu i helpu i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru, y mae busnesau eu hunain yn dibynnu. Rwy'n deall y pwysau ariannol sydd ar fusnesau bach a threthdalwyr eraill, ein cyfraniadau cyfunol yn darparu llwyfan lle gall cymunedau a busnesau lwyddo.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Polisi Trethi a'i chynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r fframwaith yn amlinellu ein bwriad i fynd ati mewn ffordd flaengar, teg ac yn anad dim, mewn ffordd dryloyw er mwyn mynd i'r afael â threthi yng Nghymru. Mae darparu cynllun parhaol ar gyfer busnesau bach yn un o'r canlyniadau allweddol fydd yn cael ei gyflawni yn y cynllun gwaith hwnnw. Mae hefyd yn ffurfio rhan o'n gwaith ehangach o ddiwygio system gyllido llywodraeth leol i sicrhau bod y trefniadau cyllido sy'n sylfaen i wasanaethau lleol yn parhau'n addas i'r diben. Rwy'n ystyried ystod o ddiwygiadau ariannol ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor i ddiwallu ein hymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen ac i gefnogi ein cynllun am lywodraeth leol gadarn a newydd sy'n fwy parod i wynebu heriau'r dyfodol. Gwneuthum ddatganiad yn amlinellu'r dull hwn ym mis Ionawr a byddaf yn diweddaru’r Aelodau ymhellach yn yr hydref.
Mae heddiw'n nodi dechrau cyfnod ymgynghori helaeth â’r rheini sy’n talu ardrethi, cynrychiolwyr busnesau, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Rydym yn awyddus iawn i glywed eu barn ac i weithio'n adeiladol gyda nhw. Mae hyn yn rhoi cyfle i ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn addas i'r dyfodol a'i fod yn ystyried sylfaen drethu a natur busnesau bach yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld yr holl gyfraniadau ar y mater pwysig hwn.