Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o gytundeb y fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a lwyddodd i sicrhau cyllid gwaelodol parhaol i Gymru gan hwyluso'r ffordd ar gyfer cyflwyno cyfraddau Cymreig o dreth incwm1 , ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno trefniadau i gynhyrchu rhagolygon refeniw ar gyfer trethi datganoledig.

Yn y tymor byr, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru'n cynhyrchu ei rhagolygon ei hun sydd wedi'u sicrhau'n annibynnol, gan weithio ar yr un pryd i sefydlu trefniadau tymor hwy.

Rhoes Ysgol Fusnes Bangor sicrwydd annibynnol o ragolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer refeniw'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi fel rhan o broses Cyllideb 2018-19. Bydd yr un trefniadau'n bodoli ar gyfer Cyllideb 2019-20, ond mae'r cwmpas wedi'i ymestyn i gynnwys sicrwydd am fethodoleg rhagolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfraddau Cymreig o dreth incwm.  

Rwyf yn ddiolchgar i Ysgol Fusnes Bangor am y gwaith pwysig a phroffesiynol y mae wedi'i wneud yn ystod dwy flynedd gyntaf datganoli trethi yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried nifer o ddewisiadau ar gyfer trefniadau ar gyfer rhagolygon, gan gynnwys defnyddio arbenigedd sefydliad sy'n bodoli eisoes; sefydlu comisiwn cyllidol i Gymru a threfniadau contractiol tymor hir.

Pan gyhoeddwyd cyllideb ddrafft 2018-19 ym mis Hydref 2017, dywedais fod dau ddewis i'w hystyried o hyd - sef sefydlu comisiwn annibynnol neu ddefnyddio'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR). Y dewis a oedd yn cael ei ffafrio oedd defnyddio'r OBR, yn seiliedig ar y meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru:

  • Mae'n hanfodol bod y swyddogaeth yn cael ei harfer mewn ffordd sy'n ddigon annibynnol ar y Llywodraeth;
  • Dylai'r ffordd y cyflawnir y swyddogaeth adlewyrchu gwerth am arian;
  • Dylai'r corff a benodir i gyflawni'r swyddogaeth hon allu dangos yr arbenigedd y mae ei angen i gyflawni ei fandad.

Ar ôl cryn drafod a gwaith manwl pellach, yr OBR sy'n cynnig y dewis gorau o ran gwerth am arian a'r dewis mwyaf cymesur ar gyfer cynhyrchu rhagolygon trethi Cymreig. Rwyf wedi penderfynu gwneud trefniant gydag OBR i ddarparu rhagolygon refeniw trethi ar gyfer Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21 a'r tu hwnt.  

Mae arbenigedd ac annibyniaeth OBR wedi ennill eu plwyf ac mae perthynas weithio dda wedi cael ei datblygu rhwng ei swyddogion a Thrysorlys Cymru. Rwyf yn disgwyl i'r trefniant newydd hwn gynhyrchu rhagolygon o safon uchel, a fydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer elfen gyllido Cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd ein trefniant newydd ag OBR yn dechrau'n ffurfiol eto ar 1 Ebrill 2019.

I gefnogi'r gwaith o gyflenwi Cyllideb Llywodraeth Cymru ac i helpu aelodau gyda'r gwaith craffu, bydd OBR yn cynhyrchu dau adroddiad. Bydd y rhain yn cynnwys rhagolygon ar gyfer trethi Cymreig - y dreth trafodiadau tir a’r dreth dirlenwi - a chyfraddau Cymreig o dreth incwm, a fydd yn seiliedig ar ragolygon macro-economaidd diweddaraf OBR ac unrhyw ddata penodol perthnasol i Gymru.  Bydd rhagolygon OBR hefyd yn rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw newidiadau ym mholisi trethi Llywodraeth Cymru.  Caiff yr adroddiadau hyn eu cyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol.  

Yn ogystal, fel rhan o'r trefniadau newydd, mae OBR wedi cytuno i gynyddu ei phresenoldeb yng Nghymru trwy ymgysylltu'n helaethach â chyrff ac unigolion sydd â buddiant, gan gynnwys Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hyn yn darparu dolen gyswllt i'w chroesawu rhwng cyhoeddi Economic and Fiscal Outlook OBR ar gyfer y Gwanwyn a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.  

Caiff Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i ddiweddaru ynghyd â Thelerau ac Amodau ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru ac OBR ar ôl y flwyddyn gyntaf.  

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei ymgysylltiad adeiladol a chefnogol tra bu Llywodraeth Cymru'n ystyried y dewisiadau ar gyfer sicrwydd annibynnol i ragolygon trethi Cymreig.

[1]Y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru 

https://gov.wales/docs/caecd/publications/161219-fiscal-agreement-en.pdf