Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Cafodd ymrwymiad ei wneud gan fy rhagflaenydd a oedd yn gyfrifol am Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ystyried y ddarpariaeth gwasanaethau gwaed yng Nghymru yn y dyfodol. Hoffwn yn awr achub ar y cyfle hwn, yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Rhoi Gwaed, i nodi fy nghynlluniau ar gyfer y gwasanaethau gwaed yng Nghymru.

Ers sawl blwyddyn, mae dau wasanaeth gwaed yn gwasanaethu Cymru - mae Gwasanaeth Gwaed Cymru, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth y GIG Felindre, yn darparu gwasanaethau i’r canolbarth a’r de, ac mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, sef awdurdod iechyd arbennig ar gyfer Cymru a Lloegr, yn ymorol am y gogledd. Er ein bod yn ffodus o gael dau sefydliad mor safonol a phroffesiynol, mae angen inni sefydlu trefniant cynaliadwy sy’n ateb y dyheadau cenedlaethol sydd gennym ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Cymru.

Mae Law yn Llaw at Iechyd yn nodi sut mae Lywodraeth Cymru yn gweld y GIG ymhen pum mlynedd, ac mae’n adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes i wneud y GIG yng Nghymru yn fwy syml ac integredig. Mae’n cydnabod yr angen i ad-drefnu a moderneiddio gwasanaethau. Mae gwasanaethau’n newid ac yn esblygu o ganlyniad i fentrau lleol, ac yn adlewyrchu newidiadau mewn demograffeg, angen a thechnoleg. Bydd hyn, yn anochel ac yn gynyddol, yn arwain at ffactorau gwahanol yn gyrru’r ddau wasanaeth gwaed sy’n weithredol yng Nghymru.

Yn y cyd-destun hwn, dyma’r amser iawn i symud i gyfeiriad creu Gwasanaeth Gwaed ar gyfer Cymru gyfan. Trwy weithio yn y ffordd integredig hon, byddwn yn gallu cynllunio’n well, a sicrhau rhagor o ystwythder a fydd yn creu diogelwch hirdymor o ran casglu, prosesu, profi a chyflenwi gwaed. Bydd cleifion, rhoddwyr ac ysbytai’n parhau i dderbyn gwasanaeth o’r un safon â nawr.
 
Mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod â’r WBS a’r NHSBT. Mae’r ddau wasanaeth yn barod i gydweithio mewn modd pragmataidd ar nifer o faterion brys, gyda golwg ar roi trefniadau mwy hirdymor yn eu lle. Rwyf eisiau gofalu ein bod yn cymryd amser i wneud y cyfnod pontio mor llyfn ag y bo modd, a heb unrhyw berygl i ansawdd a chynaliadwyedd y cyflenwadau gwaed, yn ogystal â darparu gwasanaeth diogel ac o safon i’r holl roddwyr ffyddlon, oherwydd ni fyddai’r gwasanaethau gwaed yn gallu bodoli hebddyn nhw. Fy ymrwymiad i yw hwyluso symudiad i gyfeiriad un gwasanaeth gwaed ar gyfer Cymru gyfan erbyn 2016, er fy mod yn disgwyl cynnydd sylweddol wedi ei wneud erbyn 2014

Nawr bydd y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen gan gydweithio â’r ddau wasanaeth, gan gynnwys eu cynrychiolwyr staff. Byddaf yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw gynnydd.