Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 20 Tachwedd, cyhoeddais, mewn Datganiad Llafar, nad oeddwn bellach yn barod i aros tan hydref 2013 cyn cynnal yr adolygiad ar Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol, ac y byddai swyddogion yn mynd ati i lunio'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad hwnnw.
Y prif nod fydd adolygu pa mor effeithiol yw'r system bresennol sydd gennym ar gyfer darparu gwasanaethau addysg, ar lefel yr ysgol ac ar lefel yr awdurdod lleol. Bwriedir mynd ati hefyd i ystyried yr hyn y dylid ei wneud ar lefel yr ysgol, ar lefel yr awdurdod lleol, ac ar y lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac edrych hefyd ar yr opsiynau ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny, gan ganolbwyntio ar y materion a ganlyn:
- Gwella perfformiad ysgolion;
- Codi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr o bob oedran;
- Rhoi gwell cefnogaeth a her i ysgolion er mwyn gwella safonau;
- Datblygu a chryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion, ynghyd ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu;
- Sicrhau gwerth am arian a bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithiol; a
- Sicrhau cydlyniaeth a chysylltiadau cryf rhwng pob rhan o'r system addysg, gan gynnwys darpariaeth ôl-16 a'r agenda ehangach ar gyfer gwasanaethau plant
Rwyf wedi penodi Robert Hill i gynnal yr adolygiad. Mae gan Robert brofiad helaeth o'r gwasanaethau cyhoeddus ac o bolisïau ac ymarfer ym maes addysg. Ymysg pethau eraill, mae wedi gweithio fel cynghorydd polisi i Brif Weinidog y DU, pan oedd Tony Blair wrth y llyw, ac i weinidogion eraill yn y Cabinet. Mae wedi bod yn uwch-reolwr ymchwil gyda'r Comisiwn Archwilio, yn ymgynghorydd rheoli, yn ymchwilydd ym maes polisi cymdeithasol ac, yn fwy diweddar, yn ymgynghorydd addysg annibynnol.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar am gwmpas yr adolygiad ar 22 Ionawr.