Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y Datganiad Ysgrifenedig: Cymryd Camau i Warchod a Rheoli Gwastadeddau Gwent yn well (1 Gorffennaf 2021) | LLYW.CYMRU yn cydnabod, er bod gan Wastadeddau Gwent lawer o ddynodiadau statudol ac anstatudol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, gwerth tirwedd a thirwedd hanesyddol, eu bod yn parhau i fod yn agored i niwed. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid, yn paratoi canllawiau cynllunio peilot i ategu a chyd-fynd â Pholisi 9 Cymru'r Dyfodol (Y Cynllun Cenedlaethol 2040) mewn perthynas â Gwastadeddau Gwent a helpu i gyflawni'r ymrwymiad Gweinidogol hwn o 2021.

Bydd canllawiau peilot Cymru'r Dyfodol ar gyfer y Gwastadeddau yn ategu Polisi 9 drwy ychwanegu rhagor o fanylion at ofynion y polisi a'i roi ar waith, sy'n benodol i'r Gwastadeddau. Gan eu bod yn atodol i Cymru'r Dyfodol, bydd angen ystyried y canllawiau gyda Cymru'r Dyfodol a Polisi Cynllunio Cymru (PCC) wrth baratoi cynlluniau datblygu strategol a lleol ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Ni fydd y canllawiau yn cyfiawnhau gwaith datblygu ar y Gwastadeddau a fyddai fel arall yn annerbyniol. Yn hytrach, bydd y canllawiau'n nodi cyfleoedd i ddiogelu a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn ar draws yr ardal.

Un o nodau allweddol Polisi 9 yw hyrwyddo dull gofodol, ac mae elfen sylweddol o'r peilot yn cynnwys datblygu gwaith mapio gofodol strategol i ddeall rhwydweithiau ecolegol gwydn yn well a sut maent yn gweithredu ar y Gwastadeddau. Nid yw'r dull gofodol hwn wedi'i roi ar waith o'r blaen a bydd yn ychwanegu gwerth sylweddol at Wastadeddau Gwent drwy weithredu Polisi 9 a bydd yn darparu model ar gyfer gwaith tebyg mewn mannau eraill. Nod y gwaith mapio yw nodi cyfleoedd ar gyfer gwella gwydnwch ecosystemau a sicrhau adferiad natur, ar yr un pryd â deall sut y gellir cyflawni hyn mewn modd sydd hefyd o fudd i iechyd a llesiant. Mae Polisi 9 yn cydnabod rôl Datganiadau Ardal a luniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran deall cyfleoedd o'r fath ac mewn perthynas â mapio ardaloedd i'w diogelu ar gyfer gwell cysylltedd ecolegol. Bydd gwybodaeth o Ddatganiadau Ardal a'u cynhyrchion yn llywio'r canllawiau ar gyfer y Gwastadeddau.

O ystyried y pwysau parhaus ar gyfer gwaith datblygu pellach ar y Gwastadeddau, mae'n bwysig cael gwell dealltwriaeth o sut mae datblygiadau presennol sydd eisoes wedi'u cwblhau wedi effeithio ar yr ardal. I'r perwyl hwn, cynhaliwyd Astudiaeth Monitro Ôl-Adeiladu (PCMR)gan ARUP (Gorffennaf 2024) ar ran Llywodraeth Cymru fel modd o gael mewnwelediad a dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen a defnyddio'r hyn a ddysgwyd ar gyfer y dyfodol. Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn llywio'r canllawiau a'r gwaith perthnasol arall.

Mae ystod o wybodaeth gefndir a thystiolaeth, sy'n cynnwys y PCMR a gwaith mapio strategol, ynghyd ag ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid yn cefnogi canllawiau cynllunio peilot Cymru'r Dyfodol ar gyfer Gwastadeddau Gwent. Rhagwelir y bydd y canllawiau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn nes ymlaen eleni.