Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, rwy'n cyhoeddi cyllid o £105,000 ar gyfer Gweithwyr Achosion Arbenigol ym maes Gwahaniaethu i gyllido chwe mis ychwanegol o waith, o fis Ebrill i fis Medi 2013. Mae'r gweithwyr hyn yn gweithio yng Nghanolfan Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, Canolfan Cyngor ar Bopeth Casnewydd, ac yn Race Equality First.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag Adolygiad o Wasanaethau Cynghori ar hyn o bryd. Rwy'n cyhoeddi'r cyllid hwn heddiw cyn i ganlyniad yr adolygiad hwnnw gael ei gyhoeddi, er mwyn sicrhau parhad y swyddi hyn a allai ddod i ben fel arall. Bydd unrhyw bosibilrwydd am gyllid ychwanegol ar gyfer y swyddi hyn yn cael ei ystyried yn dilyn canlyniad Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Gwasanaethau Cynghori.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith cynghori. Gan fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hefyd fod toriadau sylweddol pellach ar y gweill i’r cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol, mae'r gallu i ddefnyddio cyngor hygyrch sy'n rhad ac am ddim ar wahaniaethu yn wynebu bygythiad arall.
Un o'r saith amcan sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb yn allanol yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru yw cryfhau'r gwasanaethau cynghori, gwybodaeth, ac eiriolaeth, er mwyn helpu pobl â nodweddion gwarchodedig i ddeall ac arfer eu hawliau, a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.