Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn nodi bod iechyd meddwl yn faes â blaenoriaeth. Mae’n adeiladu ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (2012) sy’n cydnabod y gellir atal problemau mwy difrifol rhag digwydd yn ddiweddarach mewn bywyd drwy nodi problemau’n gynnar a mynd i’r afael â nhw.  

Mae lleoliadau ysgol yn allweddol i hybu iechyd meddwl da ac ym mis Mai 2017 cyhoeddwyd Fframwaith Nyrsio Ysgolion i Gymru sy’n nodi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion i blant a phobl ifanc sy’n ddiogel, yn hygyrch ac o ansawdd uchel. Nod y fframwaith yw mynd ati’n rhagweithiol i adeiladu ar y gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion cyfredol ac ymestyn ymarfer da i’r holl blant a phobl ifanc o oedran ysgol. Yn benodol, mae Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Nyrsys Ysgol y GIG i Hybu Llesiant Emosiynol a Chefnogi Anghenion Iechyd Meddwl Plant Oedran Ysgol, yn nodi’r safonau ar gyfer Nyrsys Ysgol y GIG er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys i gefnogi llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy’n mynychu sefydliadau addysgol.

Mae’r rhan fwyaf o blant rhwng tair a 18 oed yn mynychu ysgol am hyd at 30 awr yr wythnos. Mae hyn yn gwneud ysgolion yn lleoliadau allweddol ar gyfer hybu iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol a darparu mesurau atal ac ymyrraeth gynnar yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae angen i athrawon gael cymorth a chefnogaeth wrth ymateb i blant sydd ag anawsterau fel pryder, sy’n isel eu hysbryd ac sydd ag anhwylderau gorfodaeth, hunan-niweidiol neu ymddygiad; ac mae gan y GIG ran yn hyfforddi ac ymgynghori ar draws y sectorau; ac wrth ddarparu cymorth yn gynnar mewn ysgolion gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Gall gwasanaethau mewn ysgolion wella hygyrchedd, ymdrin yn well â straen sy’n gysylltiedig ag ysgol, lleihau’r pwysau ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) arbenigol drwy ostwng nifer yr atgyfeiriadau amhriodol; a hwyluso diwylliant ehangach sy’n hybu ac yn rhoi gwerth ar iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol mewn ysgolion. Mae’r materion hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sef sicrhau Cymru iachach ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac i hyrwyddo iechyd da a llesiant i bawb.  

Gan gydnabod y mater pwysig hwn, rydym wedi cytuno i sicrhau bod £1.4 miliwn o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru ar gael, er mwyn cryfhau’r cymorth sydd ar gael i ysgolion gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol a meithrin cysylltiadau sy’n ymestyn o’r ystafell ddosbarth i’r gwasanaethau arbenigol hynny.  

Bydd yn gweithredu fel rhaglen beilot ar y cychwyn er mwyn profi sawl model o ymyriadau, a’r bwriad yw cychwyn y gweithgarwch erbyn diwedd 2017 a bydd yn para dros ddwy flynedd academaidd lawn, gan ddod i ben yn ystod haf 2020 a bydd canlyniadau’r rhaglen beilot yn cael eu gwerthuso.  

Bydd tair rhaglen beilot yn gweithredu ac yn cwmpasu ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion cynradd bwydo yn y Gogledd-ddwyrain (Wrecsam a Sir Ddinbych), y De-ddwyrain (Blaenau Gwent, Torfaen a de Powys) a’r Gorllewin (Ceredigion). Bydd ardaloedd y rhaglen beilot yn cwmpasu’r gwahaniaethau cymdeithasol, demograffig a daearyddol amrywiol yng Nghymru. Drwy gynnwys disgyblion blwyddyn 6 ysgol gynradd, wrth iddyn nhw weithio tuag at y broses o bontio i ysgol uwchradd, gallwn werthuso’r canlyniadau o ddarparu cymorth emosiynol ac iechyd meddwl ymysg y grŵp hwn o oedran iau.

Bydd ymarferwyr CAMHS arbenigol yn cael eu recriwtio i weithredu fel gweithwyr cyswllt gydag ysgolion y rhaglen beilot, gan weithio mewn model amlddisgyblaethol er mwyn lleihau gofid emosiynol ac atal salwch meddwl drwy gynnig cymorth cynnar, ac atgyfeiriadau ac ymyriadau priodol: Bydd y model yn sicrhau y gellir gwneud y canlynol:

  • darparu cymorth i athrawon i ddeall yn well gofid plentyndod, problemau emosiynol ac iechyd meddwl, a lleihau straen mewn athrawon sy’n poeni am eu disgyblion drwy uwch-sgilio athrawon i adnabod problemau lefel isel yn ymwneud â’u cymhwysedd ac ymdrin â nhw;
  • pan fo materion yn cael eu nodi y tu allan i gymhwysedd a sgiliau athrawon, sicrhau bod yna gyswllt, a chyngor ar gael fel y gellir cyfeirio’r unigolyn ifanc at wasanaethau mwy priodol fel CAMHS arbenigol neu Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, gan alluogi’r ysgol i fodloni anghenion addysgol parhaus yr unigolyn ifanc; a
  • sicrhau bod systemau ar waith er mwyn rhannu gwybodaeth briodol rhwng CAMHS ac ysgolion, a bod CAMHS ac ysgolion wedi cytuno ar drefniadau gofal a rennir ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd angen cymorth mwy dwys, a bod trefniadau ar waith i gynyddu/ostwng y ddarpariaeth wrth i anghenion yr unigolyn ifanc bennu’r sefyllfa.

Mae’r cyllid yn cynnwys darpariaeth i werthuso’r rhaglenni peilot, a bydd y gwerthusiad yn ystyried amrywiaeth eang o fesurau o safbwynt athrawon a disgyblion. Bydd y gwaith hwn yn gysylltiedig â gweithgareddau ehangach sydd â’r nod o wella lles emosiynol plant a phobl ifanc, fel Hwb Cymorth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE), ac un o’i nodau yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn wybodus am ACE. Yn ogystal, bydd y gweithgarwch yn ymwneud â datblygu’r cwricwlwm newydd, gan gynnwys y Maes Iechyd a Lles mewn perthynas â Dysgu a Phrofiad. Bydd hyn yn sicrhau dull integredig er mwyn cael y canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a phobl ifanc yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Byddwn  yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y fenter bwysig hon wrth i’r gweithgarwch fynd rhagddo.