Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae amgueddfeydd lleol yn rhan annatod o gymunedau iach a llewyrchus. Maent yn ennyn diddordeb pobl mewn diwylliant; yn helpu i ddiogelu ein treftadaeth; yn creu cyfleoedd addysg; ac yn cyfrannu at ein diwydiant twristiaeth. Mae dros wyth deg o amgueddfeydd lleol yng Nghymru, yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector, sy’n manteisio ar Gynllun Achredu Amgueddfeydd y DU. Maent yn gofalu am dros filiwn o wrthrychau a sbesimenau, llawer ohonynt wedi eu rhoi gan bobl leol yn y gobaith y bydd eu rhodd yn cael ei diogelu a’i defnyddio i addysgu’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r storïau sydd ynghlwm wrth y rhoddion hyn yn unigryw, ond nid yw gwasanaethau’r amgueddfeydd sy’n gofalu amdanynt, ac yn eu cyflwyno i’r cyhoedd, mor ddiogel ag y gallent fod.


Mae’r rhan fwyaf o amgueddfeydd lleol, gan gynnwys y rheini yn y trydydd sector, yn dibynnu ar gyllid sy’n dod o’r awdurdod lleol, neu ar gymorth arall. Maent yn rhan o’r gwasanaethau anstatudol a ddarperir gan awdurdodau lleol, sy’n golygu eu bod mewn perygl o orfod wynebu toriadau yn eu cyllid, a hwyrach cael eu cau, oherwydd yr amgylchiadau economaidd presennol. Felly, ym mis Ionawr eleni, ysgrifennodd fy rhagflaenydd at yr holl awdurdodau lleol yn  gofyn iddynt gadw mewn cof werth y gwasanaethau hyn.


Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth gyntaf ar gyfer Amgueddfeydd Cymru yn 2010, roedd yn cydnabod na fyddai’n hawdd goresgyn yr argyfwng ariannol byd-eang ac adennill ein sefyllfa flaenorol. Ond, rwy’n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod gwasanaethau amgueddfeydd yn parhau i gael eu darparu ar lefel leol. Felly, rwyf wedi comisiynu Panel Arbenigol i edrych ar sut y bydd y newidiadau arfaethedig i gyllid a threfniadau, a weithredir gan yr awdurdodau, yn effeithio ar amgueddfeydd lleol. Bydd y panel yn gofyn i bob awdurdod lleol nodi pa effeithiau y bydd y newidiadau yn debygol o’u cael ar amgueddfeydd achrededig.


Cynhelir yr adolygiad gan banel arbenigol bach o dan gadeiryddiaeth Dr Haydn Edwards, cyn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Menai, sydd â chefndir mewn addysg a gwyddoniaeth. Mae Dr Edwards hefyd yn Is-lywydd Amgueddfa Cymru ac yn Gyfarwyddwr anweithredol gydag Estyn. Aelodau eraill y panel yw’r Athro Gaynor Kavanagh, Deon Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd a churadur cymwysedig sy’n arbenigo mewn arferion curadu a moeseg amgueddfeydd; Adrian Babbidge, arbenigwr cydnabyddedig mewn rheoli amgueddfeydd, cyllid a materion cyfreithiol, a chynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Gofynnir i’r panel baratoi adroddiad erbyn y gwanwyn 2015, ac rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd a’r aelodau am gytuno i gyflawni’r gwaith pwysig hwn.


Bydd y panel yn cyflwyno ei gasgliadau yn ei adroddiad, a fydd yn edrych ar y sefyllfa ledled Cymru gyfan, gan nodi’r arferion gorau ac unrhyw feysydd sy’n destun pryder.  


Ar ôl ymchwilio i’r sefyllfa o safbwynt Cymru gyfan, gofynnir i’r panel ystyried a oes unrhyw fodelau eraill y gellid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau amgueddfeydd yn fwy effeithlon ac effeithiol, drwy gydweithio a chaffael ar y cyd.


Bydd y panel hefyd yn ystyried y trefniadau cydweithio rhwng amgueddfeydd lleol, Casgliad y Werin Cymru ac Amgueddfa Cymru sydd ar waith ar hyn o bryd i sicrhau bod casgliadau’n cael eu gweld gan fwy o bobl, a hefyd i rannu gwybodaeth a hyrwyddo amgueddfeydd fel lleoedd i ymweld â hwy.

Ers 2004, mae Llywodraeth Cymru, drwy is-adran CyMAL, wedi hyrwyddo dull gweithredu strategol sy’n datblygu amgueddfeydd lleol mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru. Mae dros £5m wedi ei fuddsoddi mewn datblygu darpariaeth amgueddfeydd lleol, darparu cynllun hyfforddi cenedlaethol a hyrwyddo partneriaethau rhanbarthol. Cymru gyhoeddodd y strategaeth amgueddfeydd genedlaethol gyntaf yn y DU, ac mae’r strategaeth honno wedi ennyn cefnogaeth eang yn y sector ei hun. Byddaf yn defnyddio’r casgliadau a nodir yn adroddiad y panel adolygu arbenigol i lunio ein strategaeth genedlaethol nesaf o 2016 ymlaen.