Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy'n agored i niwed, yn ogystal â ddysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol. Mae lleoliadau gofal plant yn parhau i allu gofalu am bob plentyn 0-12 oed, yn unol â'u cofrestriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Rydym wedi cryfhau'r dyletswyddau ar gyfer awdurdodau lleol sy'n darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy'n agored i niwed drwy gynnwys darpariaethau yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hynny'n ymwneud â darparu addysg yn yr ysgol. Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar adnabod plant gweithwyr hanfodol.

Mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd hyder yn y trefniadau hyn. Wrth ystyried a yw plentyn yn cael ei dderbyn i ysgol, mae'n bwysig penderfynu sut mae rôl y rhiant neu'r gofalwr yn cefnogi’r ymateb i Covid ac felly’n ei gwneud yn gymwys i gael darpariaeth. Rydym yn cydnabod y bydd awdurdodau lleol ac ysgolion yn cydbwyso gwahanol fathau o gyflogaeth ac effeithiau cysylltiedig mewn meysydd penodol, a'r pwysau sydd ar staff addysg i ddarparu cymorth yn yr ysgol ac ar-lein wrth bennu darpariaeth.

Os yw un rhiant yn weithiwr hanfodol, dylai allu cael mynediad i ysgol neu le mewn gofal plant. Os yw un rhiant yn weithiwr hanfodol ond nid y rhiant arall, yna dylai'r rhiant arall ddarparu trefniadau amgen diogel gartref pan fo hynny'n bosibl.

Ceir rhestr lawn o weithwyr hanfodol yn https://llyw.cymru/adnabod-plant-gweithwyr-hanfodol-canllawiau. Mae'r rhestr o weithwyr hanfodol yn mynd y tu hwnt i wasanaethau rheng flaen 'golau glas' ac yn cynnwys amrywiaeth o alwedigaethau sy'n cyfrannu at yr ymateb i Covid, gan gynnwys y rhai sy'n cynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chyfleustodau i bobl Cymru. Yn yr achosion hyn, dylai'r plentyn allu cael mynediad i ysgol neu ofal plant.

Yn ystod y cyfnod hwn, dylid cynnig darpariaeth addysg i ddysgwyr sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol ar safle eu hysgol, os oes angen; nid ydym yn disgwyl y bydd dysgwyr yn mynychu 'hybiau' a rennir.

Hoffwn ddiolch unwaith eto i staff ein hysgolion a'n colegau am eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn, maent yn gwneud cyfraniad enfawr at ein hymdrechion i gadw pobl yn ddiogel a sicrhau bod ein plant yn dal ati i ddysgu.