Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 22 Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Gwladol dros Gyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, y Gwir Anrh. Jacob Rees-Mogg AS, ddangosfwrdd rhyngweithiol cyfraith yr UE a ddargedwir.

Dyma’r corff o gyfreithiau a grëwyd pan droswyd cyfraith yr UE i gyfraith ddomestig, ar ddiwedd y cyfnod pontio, a’i diwygio fel yr oedd yn briodol i ddarparu parhad a sicrwydd i fusnesau a phobl. Chwaraeodd Llywodraeth Cymru ran lawn yn y gwaith hwnnw ac mae tystiolaeth yn y 18 mis ers diwedd y cyfnod pontio yn dangos bod cyfraith yr UE a ddargedwir wedi gweithredu’n dda i roi’r parhad a’r sicrwydd hwnnw.

Mewn cyferbyniad â’r cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig i greu’r corff o gyfraith yr UE a ddargedwir, cyn i’r dangosfwrdd gael ei gyhoeddi, cyfle cyfyngedig iawn a gawsom i edrych arno. Mae hynny’n annerbyniol. Nid yw’r dangosfwrdd yn cynnwys unrhyw wybodaeth ynghylch pa offerynnau o gyfraith yr UE a ddargedwir sydd mewn meysydd datganoledig, er i’r Llywodraethau Datganoledig ofyn am hynny. Nid yw ychwaith yn dynodi pa ddarnau o ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru y gallai cynigion ehangach Llywodraeth y DU i ddiwygio, diddymu neu ddisodli holl gyfreithiau’r UE a ddargedwir effeithio arnynt. Mae’n hanfodol bwysig i bobl a busnesau Cymru bod unrhyw gynigion i newid cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael eu hasesu a’u hystyried yn llawn yng nghyd-destun cyfansoddiadol y setliadau datganoledig cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, gan gynnwys parchu’r darpariaethau a’r ffyrdd o weithio a nodir mewn fframweithiau cyffredin y cytunwyd arnynt. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir mewn meysydd datganoledig yn cael ei hamlygu’n glir, gan roi blaenoriaeth i hynny, a’i bod, yn ehangach, yn gweithredu yn y dyfodol mewn modd sy’n parchu cyfrifoldebau datganoledig ac sy’n cadw at ei hymrwymiadau drwy fframweithiau cyffredin.

Rwyf hefyd yn pryderu’n fawr bod yr ymarfer hwn yn gam cyntaf tuag at ddiwygio a dadreoleiddio cyfraith yr UE a ddargedwir o dan y “Bil Rhyddid yn sgil Brexit” sydd ar y gweill. Mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir droeon nad yw unrhyw gynigion i ddadreoleiddio mewn ffordd a allai leihau’r amddiffyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol pwysig a safonau uchel cynhyrchion y mae defnyddwyr a gweithwyr yng Nghymru wedi dod i’w disgwyl yn dderbyniol. Gallai hyn hefyd osod baich ar adnoddau Llywodraeth Cymru pan fo angen inni ganolbwyntio ar faterion pwysicach.

Mae gorfodi Deddf Marchnad Fewnol y DU, heb gydsyniad Senedd Cymru, ac yn amodol ar ganlyniad yr her gyfreithiol, yn peri pryderon sylweddol pellach y gallem, pe bai Llywodraeth y DU yn dadreoleiddio mewn ffordd sy’n groes i amcanion Gweinidogion Cymru i gynnal safonau uchel, orfod derbyn yng Nghymru gynhyrchion a wneir rywle arall sydd o safonau is. Mae’r sefyllfa hon yn hollol annerbyniol, a byddwn ni’n parhau i frwydro yn erbyn unrhyw gamau i’n gorfodi i fod mewn ras i’r gwaelod.

Sylwaf y gwnaeth Mr Rees-Mogg ymrwymiad yn ei ddatganiad i ASau am y dangosfwrdd, gan ddweud “where there are devolved consequences from laws coming back from the European Union the powers to amend will be with the devolved authorities”. Bydd Llywodraeth Cymru yn craffu ar y Bil – nad ydym, unwaith eto, wedi’i weld hyd yma – i sicrhau bod darpariaethau manwl y Bil yn cadw at yr ymrwymiad hwnnw a bod y Bil yn parchu’r setliad datganoli yng Nghymru yn llawn.

Yn anffodus, mae’n ymddangos bod natur y cyhoeddiad hwn a’r cysylltiad annigonol â’r Llywodraethau Datganoledig yn rhan o duedd ehangach o ymddygiad annerbyniol gan Lywodraeth y DU. Daw hyn ar ôl ei Bil Protocol Gogledd Iwerddon a nifer o Filiau eraill na wnaed llawer o ymdrech ystyrlon i weithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig arnynt cyn gwneud cyhoeddiad. Mae angen i Lywodraeth y DU sylweddoli’r niwed y mae’n ei achosi i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig drwy ei gweithredoedd, a newid cyfeiriad. Dylai hefyd ganolbwyntio yn fwy ar ymateb i’r argyfwng costau byw a blaenoriaethau enbyd eraill a allai fod o fudd gwirioneddol i fywydau pobl, yn hytrach nag ymrwymo adnoddau helaeth i ymarferion gweinyddol ac ideolegol fel hyn.