Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwybod bod Prif Economegydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi, law yn llaw â’r gyllideb ddrafft, adroddiad sy’n crynhoi’r rhagolygon economaidd a chyllidol. Gan fod nifer o asesiadau economaidd wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar ynghylch effaith bosibl ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar yr economi, mae’r Prif Economegydd wedi cyhoeddi ei ddadansoddiad o’r asesiadau effaith economaidd hynny. Mae’r dadansoddiad wedi’i amgáu gyda’r Datganiad Ysgrifenedig hwn.

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein hasesiad cyffredinol o’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol, a hynny mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 27 Tachwedd. Mae dadansoddiad economaidd manylach y Prif Economegydd yn gyson â’r asesiad cyffredinol hwnnw.