Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Dros y tair blynedd a hanner diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar bob cyfle i roi gwybod i Lywodraeth y Deyrnas Unedig beth yw blaenoriaethau Cymru o ran perthynas y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Rydym wedi ceisio bod yn adeiladol, gan obeithio dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU, a galluogi'r DU i sicrhau sefyllfa o undod a nerth wrth negodi â'r UE.
Mae’r mandad y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyhoeddi ar gyfer perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol yn dangos ei bod wedi dewis peidio â gwrando. Mae perygl y bydd y mandad y mae wedi’i amlinellu ar gyfer y negodiadau yn gwneud niwed mawr i fusnesau ac i swyddi pobl oherwydd ei hymgais frysiog i sicrhau cytundeb erbyn diwedd y flwyddyn. Wrth wneud hyn, mae Llywodraeth y DU wedi ymbellhau oddi wrth y datganiad gwleidyddol y cytunodd arno gyda’r UE ym mis Hydref.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r safbwyntiau a nodwyd ym mandad Llywodraeth y DU. Wrth weithredu yn y modd hwn, mae Llywodraeth y DU wedi colli cyfle i sicrhau sefyllfa gryf ac unedig ar draws holl lywodraethau’r DU. Gan fod Llywodraeth y DU yn dewis peidio â gwrando ar ein pryderon dilys, bydd yn dechrau’r negodiadau hyn yr wythnos nesaf ar ei phen ei hun.
Mae’n amlwg o’r mandad hwn fod blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer ei pherthynas â’r UE yn y dyfodol yn gwbl wahanol i’r blaenoriaethau yr ydym ni wedi dadlau drostynt yn gyson. Mae dull gweithredu Llywodraeth y DU yn seiliedig ar ideoleg, gan roi’r syniad o “adennill rheolaeth” o flaen bywoliaeth pobl. Nid ydym yn derbyn ei hegwyddorion sylfaenol ar gyfer y negodiadau pwysicaf a mwyaf manwl ers cenhedlaeth. Fel y gwnaethom nodi yn ddiweddar yn y cyhoeddiad ‘Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru’, rydyn ni’n credu mai’r brif flaenoriaeth yw sicrhau’r mynediad llawnaf posibl at farchnadoedd yr UE, nid fel diben ynddo’i hun ond oherwydd bod yr holl dystiolaeth yn awgrymu mai dyma’r ffordd orau o ddiogelu anghenion yr economi, gwasanaethau cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach - mae’n bwysig ar gyfer swyddi, cyflogau, busnesau a chymunedau.
Hefyd, mae diffyg tystiolaeth o unrhyw fath i gefnogi’r safbwyntiau y mae Llywodraeth y DU wedi’u nodi yn y mandad. Unwaith eto, mae wedi methu â chyhoeddi unrhyw wybodaeth am effeithiau economaidd y berthynas y mae’n ei cheisio gyda’r UE. Fel y dangoswyd mewn amryw o astudiaethau annibynnol a thystiolaeth gan Lywodraeth flaenorol y DU, mae goblygiadau posibl symud oddi wrth y drefn economaidd a chymdeithasol integredig sydd gennym ar hyn o bryd gyda’r UE, a gosod rhwystrau newydd i fasnachu gyda’n marchnad allforio fwyaf, yn sylweddol. Nid oes unrhyw esgus i Lywodraeth y DU amlinellu ei safbwynt negodi heb roi unrhyw dystiolaeth i’w ategu.
Mae Llywodraeth y DU wedi seilio ei mandad negodi ar yr amryw o Gytundebau Masnach Rydd sydd gan yr UE gyda thrydydd gwledydd. Unig ddiben y dull gweithredu hwn yw ceisio sicrhau cytundeb gyda’r UE o fewn y cyfnod amser y mae Llywodraeth y DU wedi’i roi iddi hi ei hun, sef dod i gytundeb erbyn Rhagfyr 2020. Rydym yn credu bod y dull hwn o weithredu yn sylfaenol ddiffygiol. I ddechrau, ni ddylid gosod cyfyngiadau artiffisial ar y negodiadau drwy lunio amserlen afrealistig. Yn ail, does dim cynsail ar gyfer Cytundeb Masnach Rydd rhwng dwy ochr sy’n dechrau o sefyllfa lle nad oes bron unrhyw rwystrau confensiynol i fasnachu ac mai’r nod yw rheoli ymwahaniad, yn hytrach na hyrwyddo cydgyfeiriad.
Mae Llywodraeth y DU yn credu bod y cytundeb masnach rhwng Canada a’r UE yn gynsail addas. Rydyn ni’n anghytuno.
Hefyd, mae amryw o bryderon mwy penodol yr ydym wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU. Mae’n parhau i fod yn uchelgais gan Lywodraeth y DU i sicrhau trefniadau masnachu heb dariffau gyda’r UE. Rydym yn cefnogi hyn. Ond ar yr un pryd, nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd y rhwystrau i fasnachu nad ydynt yn cynnwys tariffau. Mae’n amlwg y bydd y dull a ragwelir o ran Rheolau Tarddiad a Rhwystrau Technegol i Fasnachu yn arwain at anghytuno sylweddol o ran masnachu, gan gynnwys yr angen am waith papur a gwiriadau ychwanegol ar y ffin. Ar wahân i dynnu sylw at y ffaith y bydd angen y gwiriadau ychwanegol hyn, mae’r mandad yn annelwig o ran gweithrediad y trefniadau tollau arfaethedig. Gall yr oedi a’r anghytundeb arwain at oblygiadau sylweddol ar gyfer ein sectorau bwyd-amaeth, awyrofod a modurol yng Nghymru.
O ran gwasanaethau a fasnachir, unwaith eto gall dull seiliedig ar gynsail Llywodraeth y DU niweidio’r economi. Dro ar ôl tro, rydym wedi cyflwyno’r achos i Lywodraeth y DU dros negodi cytundeb sy’n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau sy’n gysylltiedig â nwyddau. Mewn amryw o sectorau, gan gynnwys awyrofod, nid yw busnesau yn gwahaniaethu rhwng y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cyflenwi ochr yn ochr â’r nwyddau. Mae Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gwrando. Mae mandad Llywodraeth y DU hefyd yn dangos diffyg uchelgais ar gyfer sawl sector twf gan gynnwys gwasanaethau digidol ac mae’r methiant i gydnabod pwysigrwydd cytundeb sy’n darparu ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol o’r ddwy ochr yn arwain at risg pellach i allu darparwyr gwasanaethau i fasnachu yn yr UE.
Ni all Llywodraeth y DU siarad ar ran Cymru ar gyfer meysydd sydd wedi’u datganoli. Ni ddylid defnyddio’r mandad i awgrymu mai dyma y mae’n ei wneud chwaith. Er ein bod ni wedi cyflwyno ein safbwynt dro ar ôl tro, ymddengys fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gyfyngu ar ein gallu i gyflawni mewn nifer o feysydd polisi datganoledig pwysig fel datblygu economaidd, yr amgylchedd, ynni a newid hinsawdd.
Rydym hefyd wedi cyflwyno’r achos dro ar ôl tro i’r DU negodi’r hawl i barhau i gymryd rhan mewn nifer o raglenni a fydd yn olynu rhaglenni presennol yr UE. Yma, mae Llywodraeth y DU wedi ceisio gwneud penderfyniadau ar yr hyn y mae’n ei gredu sydd orau er lles Lloegr. Rydym wedi erfyn droeon ar Lywodraeth y DU i negodi’r dewis i Gymru barhau i gymryd rhan yn rhaglenni’r UE, hyd yn oed os nad yw Llywodraeth y DU yn dymuno i Loegr gymryd rhan ynddynt. Mae wedi dewis peidio â gwrando, a’r unig beth sydd wedi’i gynnwys yn y mandad yw cyfeiriadau anfoddog at gymryd rhan mewn ystod gyfyngedig o raglenni.
Byddwn yn parhau i nodi beth yw’r blaenoriaethau i Gymru wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt. Os bydd Llywodraeth y DU yn newid ei dull o weithredu, ac yn rhoi cyfle digonol i Lywodraeth Cymru fod yn rhan briodol o’r negodiadau wrth drafod materion sydd wedi’u datganoli, yna fe fyddwn, fel bob amser, yn sicrhau ein bod yn cymryd rhan lawn yn y negodiadau hyn.