Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r Dadansoddiad diweddaraf fesul Gwlad a Rhanbarth o wariant cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi y bore 'ma, yn dangos mai £9,904 y pen oedd y gwariant ar wasanaethau yng Nghymru yn 2014-15, sef 11 y cant yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (DU). 

Yn ôl y ffigurau manylach, roedd gwariant y pen ar iechyd yng Nghymru yn uwch nag ydoedd yn Lloegr yn 2014-15, ac fe gynyddodd yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.  Roedd gwariant cyfunol y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn £172, neu 7 y cant yn uwch nag ydoedd yn Lloegr yn 2014-15.  Yn ychwanegol, roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru 4 y cant yn uwch nag ydoedd yn Lloegr.

Er bod angen bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol â rhannau eraill o'r DU, mae'r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg defnyddiol ar lefelau gwario. Maent yn dangos y ffaith ein bod yn parhau i fuddsoddi mwy na Lloegr mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac mewn addysg; sy'n dyst i'r pwys a roddwn i'n prif wasanaethau cyhoeddus. 

Mae buddsoddi yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon.  Dyna pam, ers inni gyhoeddi ein Cyllideb derfynol ar gyfer  2015-16 fis Rhagfyr diwethaf, rydym wedi rhoi bron £150 miliwn ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru eleni.  Er gwaethaf y toriad o 8 y cant mewn termau real i'n cyllideb ers 2010-11 - toriad na welwyd mo’i debyg o’r blaen - rydym yn parhau i ariannu'r gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i bobl Cymru.
Ond, rydym yn uchelgeisiol dros Gymru, ac rydym am wneud mwy i greu gwasanaethau modern, sydd ymhlith y goreuon yn y byd. I gyflawni hynny, mae’n hanfodol cael arian teg gan San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyhoeddi manylion am gyllid gwaelodol a fydd yn cael eu cyflwyno ar y cyd â'r Adolygiad Gwariant nesaf. Rydym wedi'i gwneud yn gwbl glir i Lywodraeth y DU y bydd angen i'r cyllid gwaelodol gynnig system dryloyw a chadarn sy'n sicrhau bod sylfaen gadarn a chynaliadwy gennym i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y tymor hir.