Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Daethpwyd i’r cytundeb hwn yn dilyn dau ddiwrnod o drafodaethau dwys o fewn carfan y DU, gydag Aelod-wladwriaethau eraill a’r Comisiwn. Roedd yn bleser cymryd rhan weithredol yn y trafodaethau hyn sydd wedi arwain at gyfleoedd pysgota a fydd yn galluogi’r diwydiant yng Nghymru i barhau i dyfu mewn modd cynaliadwy.
Wrth fynd ati i drafod, seiliodd Llywodraeth Cymru ei dadleuon ar yr egwyddorion clir a fabwysiadwyd wrth drafod y diwygiadau i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Cytunwyd ar yr egwyddorion hynny yn gynharach yn y flwyddyn, hynny yw, bod angen inni ddilyn y cyngor gwyddonol sydd ar gael; bod angen inni sicrhau'r Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf o ran stociau pysgod erbyn 2015, os oes modd, ac erbyn 2020 fan hwyraf; a bod angen inni sicrhau bod llai o bysgod yn cael eu taflu’n ôl.
Mae cytuno ar gwotâu pysgota yn gam pwysig tuag at gyflawni’r amcanion a amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar Bysgodfeydd o ran sicrhau bod ein pysgodfeydd yn gynaliadwy ac yn hyfyw. Rwy’n grediniol bod y cytundeb pysgota ar gyfer 2014 yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gyflawni’r amcanion hynny.
Rwy’n falch ein bod, yn unol â’r dystiolaeth wyddonol, wedi llwyddo i sicrhau cynnydd o ran pysgota am ledod cochion ym Môr Hafren a’r Môr Celtaidd, a’n bod wedi llwyddo i gadw cwotâu pysgota ar yr un lefelau ag yn 2013 ar gyfer mathau eraill o bysgod, gan gynnwys hadog ym Môr Iwerddon. Pan aeth y Comisiwn ati i gynnig toriadau
sylweddol, rwy’n fodlon ein bod wedi llwyddo i ddadlau yn erbyn hynny ar sail wyddonol gadarn. Fodd bynnag, pan fo stociau’n lleihau, mae’r dystiolaeth wyddonol hefyd yn dangos bod angen torri cwotâu, a hynny er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i sicrhau'r Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf o ran stociau pysgod.
Ar y cyfan, rwy’n hapus â’r fargen derfynol y llwyddwyd i’w tharo. Mae’n golygu ein bod wedi symud ymlaen yn sylweddol o ran cyrraedd ein hamcanion dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin diwygiedig, a’n bod, ar yr un pryd, yn parchu anghenion cymdeithasol-economaidd ein fflyd pysgota ac yn sicrhau diwydiant pysgota a all helpu i gynnal ein cymunedau arfordirol.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad arall, neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.