Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi dychwelyd yn ddiweddar o Gyngor Pysgodfeydd yr UE ar gyfleoedd pysgota Ewropeaidd 2017. Rwy’n ddiolchgar i’r pysgodfeydd a chynrychiolrwyr pysgota hamdden, y cyfarfyddais â hwy yn ddiweddar, i helpu i nodi’r prif stociau sydd o fudd i Gymru.  Gan bod y diwydiant eisoes wedi cymeryd camau cynaliadwyedd gwirfoddol ac wedi cynnig tystiolaeth glir economaidd-gymdeithasol, roedd yn bosibl imi baratoi achos cryf pan gyfarfyddais â’r Llywyddiaeth a’r Comisiwn gyda’r cydweithwyr Gweinidogol, George Eustice AS, Gweinidog Gwladol Defra, Fergus Ewing MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Wledig a Chysylltedd, Llywodraeth yr Alban, a  Michelle McIlveen MLA, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Gogledd Iwerddon.  

Yn unol â’n hymrwymiadau i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, fy mlaenoriaeth oedd diogelu stociau pysgod, tra hefyd yn sicrhau canlyniadau positif ar gyfer y cymunedau arfordirol hynny y mae eu heconomïau’n dibynnu cymaint ar y môr.  Mae angen pysgota ar lefelau cynaliadwy, yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.  Roedd dod o hyd i’r cydbwysedd iawn yn y trafodaethau yn heriol.  

Rwy’n falch o hysbysu’r Aelodau ein bod, yn gynharach yn y bore, wedi llwyddo i sicrhau cytundeb ar flaenoriaethau Cymru.  Sef:  

1. Pysgodfa Fasnachol Draenogod y Môr– Parhau i ddefnyddio rhwydau dethol o fewn pysgodfa draenogod y môr.  Roedd hyn yn her sylweddol gan bod y stoc yn parhau i adfer.  Fodd bynnag, gan weithio o fewn yr amlen gynaliadwy gyffredinol, llwyddwyd i gael cynnydd bychan i ganiatâu dalfeydd o 250kg y mis i rwydwyr. Y cynigion cychwynnol oedd dim darpariaeth o gwbl ar gyfer rhwydo yn 2017.

2. Pysgodfa Hamdden Draenogod y Môr  – Paratowyd achos gennyf i gynyddu y pysgod sydd ar gael ar gyfer genweirwyr hamdden. Fodd bynnag, gallai’r Comisiwn a’r  Llywyddiaeth ond cyfiawnhau parhâd o drefniadau 2016 – sef dal a rhyddhau ar gyfer 6 mis cyntaf y flwyddyn, ac yna gyfyngu i un pysgodyn y dydd ar gyfer gweddill y flwyddyn.    

3. Rhywogaethau Pwysig yn Fasnachol – Yn unol â’r dystiolaeth, trafodais barhâu â Chyfanswm y Ddalfa a Ganiateir (TAC) ar forgathod a lledenod pwysig yn fasnachol ym Môr Hafren.  Y cynnig oedd gostyngiad ar gyfer y ddwy rywogaeth hon, fodd bynnag, cytunwyd ar gynnydd o 5% ar gyfer morgathod a chynnydd o 8% ar gyfer lledenod.  

Rwy’n credu inni gytuno ar gydbwysedd cadarn a theg rhwng diogelu buddiannau economaidd pysgotwyr bychain a genweirwyr hamdden â’r angen i symud stociau tuag at sefyllfa ble y gallant gael eu pysgota yn gynaliadwy yn y dyfodol.