Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Rwyf newydd ddychwelyd o fod yn arwain dirprwyaeth Cymru yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel. Daeth cyfarfod y Cyngor i ben yn oriau mân bore yma a chan weithio gyda chyfeillion o bob rhan o'r DU, mae'n bleser gen i hysbysu aelodau ein bod wedi llwyddo i daro ar fargen dda i bysgotwyr Cymru.

Yn unol â'n hymrwymiad i reoli'n hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ar sail y cyngor gwyddonol gorau, fy mlaenoriaeth oedd diogelu'n stociau pysgod ond gan sicrhau'r canlyniadau gorau posibl hefyd i economïau'r cymunedau arfordirol sy'n dibynnu cymaint ar y môr.  Roedd trafodaethau eleni'n gymhleth oherwydd effeithiau Brexit a'r heriau sy'n wynebu rhai stociau.

Cydweithion ni'n glos â'n rhanddeiliaid ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth, yn enwedig i Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru ac aelodau WMFAG, am eu cyngor a'u cefnogaeth.

Draenogiaid y Môr gafodd ein sylw pennaf yn y drafodaeth, a'n nod oedd sicrhau cytundeb cynaliadwy a theg i bysgotwyr masnachol a hamdden fyddai'n sicrhau hefyd bod stociau'r pysgod pwysig hyn yn cael parhau i ymadfer. 

Gwnaethon ni gyflwyno achos cryf ger bron y Llywyddiaeth a'r Comisiwn ynghylch Draenogiaid y Môr a llwyddo i sicrhau'r canlynol:

  • Bydd pysgotwyr hamdden yn cael dal a chadw mwy o Ddraenogiaid y Môr, o un pysgodyn y dydd i ddau. Mae hyd y tymor hefyd wedi'i ymestyn, o 7 i 9 mis. Rhaid dal a gollwng weddill y flwyddyn;
  • Mae'r lwfans blynyddol ar gyfer cychod masnachol lein a bachyn wedi cynyddu o 5.5 i 5.7 tunnell y flwyddyn;
  • Y lwfans ar gyfer sgil-ddalfa rhwydi sefydlog yw 1.4 tunnell y flwyddyn o hyd;
  • Er bod gofyn bellach ar i'r pysgodfeydd treillrwydi a rhwydi sân daflu llai o Ddraenogiaid y Môr sy'n cael eu sgil-ddal, caniateir iddynt lanio mwy o Ddraenogiaid y Môr. Cynyddwyd y ddalfa rhwydi sân o 210kg i 520kg bob deufis. dalfa'r cychod treillrwydo o 400kg i 520kg bob deufis. Mae canran pwysau cyfran y ddalfa gyfan sy'n Ddraenogiaid Môr wedi cynyddu o 1% y dydd i 5% y trip;
  • Mae Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf ar gyfer Draenogiaid y Môr y sector masnachol bellach yr un faint ag ar gyfer y sector hamdden, sef 42 cm.

Mae'r mesurau hyn gyda'i gilydd yn sicrhau bod Draenogiaid y Môr wedi'u gwarchod o hyd ac yn cael eu pysgota ar lefel o dan y Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf.

O ran y stociau eraill sy'n berthnasol i Gymru, rydym wedi cynnal neu gynyddu'r cwotâu ar gyfer Morgathod, Cythreuliaid y Môr, Lledod Coch, Hadog a Lledod Mair yn y Môr Celtaidd ac ar gyfer Lledod Coch, Lledod Chwithig a Sgadan (Penwaig) ym Môr Iwerddon, hynny heb aberthu targedau cynaliadwyedd.

Yn y Môr Celtaidd er hynny, mae stociau penfras yn parhau'n her. Mae'r Cyngor wedi gosod TAC o 805t ynghyd â phecyn o fesurau technegol pwysig. Er y bydd hyn yn anodd i rai, bydd mwyafrif llethol y fflyd Cymreig yn gallu parhau i bysgota'n gynaliadwy yn y Môr Celtaidd.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.