Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2011, rhoddais fy ymateb i’r pryderon a godwyd gan y sector adeiladu mewn perthynas â dyfarnu dau fframwaith i gyflenwi’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif – a chyhoeddais y byddwn yn comisiynu Adolygiad o’r Gwersi a Ddysgwyd.  Y ddau fframwaith dan sylw oedd un dan arweiniad Cyngor Sir Powys (cydweithrediad rhwng Cynghorau Sir Ceredigion, Gwynedd a Phowys) ac un dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cydweithrediad rhwng deg o Awdurdodau Lleol yn Ne-orllewin Cymru, sef fframwaith SEWSCAP). 

Er mwyn cyflawni’r gwaith hwn, cynhaliodd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol gyfres o gyfweliadau strwythurol gyda chontractwyr a’r ddau brif awdurdod oedd yn gyfrifol am y ddwy broses gaffael (Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf).  Bu’r Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn cyfweld contractwyr a lwyddodd i gael eu cynnwys ar y fframweithiau, ynghyd â rhai na lwyddodd.  Roedd y contractwyr a’r Awdurdodau Lleol a gafodd eu cyfweld yn mynegi barn amrywiol ynglŷn â’u profiad o’r broses gaffael hon yn ystod cyfnod sefydlu’r fframweithiau.  Mae’r Gwasanaethau Archwilio Mewnol wedi cwblhau’r gwaith hwn ac wedi cyflwyno adroddiad i mi.  

Nid yw’r adroddiad yn nodi unrhyw gamgymeriadau sylfaenol yn y broses a ddefnyddiwyd yn y naill broses na’r llall.  Fel gydag unrhyw broses, mae lle i wella bob amser.  Mae’r adroddiad yn nodi’r negeseuon a gafwyd yn ystod y broses hon ac yn gwneud argymhellion er mwyn gwella unrhyw waith tebyg yn y dyfodol. 

Mae’r gwersi caffael a ddysgwyd yn nodi bod:
• Cynllunio strategaethau caffael yn effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod contractwyr lleol yn cael cyfleoedd i fanteisio ar gytundebau fframwaith;
• Mae’r Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gymhwyster Cyflenwyr (SQuID) wedi gwella’r broses cyn-gymhwyso i gontractwyr;
• Mae’n rhaid i gytundebau fframwaith gefnogi’r polisi Budd Cymunedol; a
• Dylid rhoi canllawiau i helpu i annog cyrff cyhoeddus i dorri’r gofynion yn ‘lotiau’ llai.
Y gwersi a ddysgwyd o ran datblygu cyflenwyr oedd:
• Dylid helpu ac annog Busnesau Bach a Chanolig i ystyried trefniadau consortia; 
• Dylid datblygu Busnesau Bach a Chanolig i’w helpu i gystadlu am gyfleoedd y tu hwnt i’w lleoliad daearyddol traddodiadol; a
• Dylid helpu contractwyr i ennill achrediadau ansawdd perthnasol a fydd o gymorth i sicrhau busnes ymhellach i ffwrdd. 
Rwyf wedi gofyn i’r Grŵp Llywio Caffael Gwaith Adeiladu ymateb i’r gwersi pwysig hyn a ddysgwyd ynglŷn â chaffael.

Bydd yr Adroddiad Gwersi a Ddysgwyd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Byddaf yn trafod y materion hyn ymhellach yn fy Natganiad Llafar ar 21 Chwefror.  Rwyf wedi ymrwymo i ddal ati i wneud gwelliannau er mwyn cael y budd gorau posibl o’n gwariant ar gaffael, ac felly fe fyddaf cyn hir yn cyhoeddi adolygiad o effaith ein polisïau caffael ledled Cymru.