Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Fel rhan o dîm negodi Gweinidogion y DU, yr ydym unwaith eto wedi helpu i sicrhau bargen i Gymru ar gyfleoedd pysgota a chwotâu yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel, a ddaeth i ben yn ystod oriau mân y bore.
Yn unol â'n hymrwymiadau i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael, y flaenoriaeth oedd diogelu stociau pysgod tra’n sicrhau canlyniad cadarnhaol i’r cymunedau arfordirol hynny y mae eu heconomïau’n ddibynnol iawn ar y môr. Roedd trafodaethau eleni yn bwysicach nag erioed yn sgil yr holl ansicrwydd sydd ynghlwm wrth Brexit.
Rydym wedi cydweithio'n agos â'n rhanddeiliaid ac yr wyf yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth. Gwnaethom lwyddo i gyflwyno achos cryf o Gymru i'r Llywyddiaeth a’r Comisiwn, ynghyd â chydweithwyr o Lywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill. Yr wyf yn falch o hysbysu'r Aelodau y buom yn llwyddiannus wrth sicrhau bargen ar flaenoriaethau Cymru. Y rhain oedd:
- Osgoi gwaredu’n ddiangen ddraenogod y môr a gwarchod buddiannau pysgotwyr masnachol a physgotwyr hamdden tra’n sicrhau bod stociau’n parhau i wella
- Cynyddu neu gynnal cwotâu ar gyfer Morgathod, Lledod Coch, Hadogiaid a Lledod Mair yn y Môr Celtaidd ac ar gyfer Penfreision, Hadogiaid, Lledod Coch a Lledod Chwithig ym Môr Iwerddon, tra’n parhau i gynnal targedau cynaliadwyedd
- Hwyluso atebion dros dro i’r heriau sydd ynghlwm wrth gyngor i gael dalfa niwtral i nifer o rywogaethau yn sgil gweithredu’r Gwaharddiad ar Waredu, a hynny’n unol â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.