Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nodaf y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU ar 28 Chwefror fod trafodaethau ar gyfer cytundeb masnach rydd (FTA) rhwng y DU a Seland Newydd wedi dod i ben.

Seland Newydd yw'r 48fed fwyaf o blith y marchnadoedd y mae Cymru’n allforio iddynt a'r 61fed fwyaf o blith y marchnadoedd y mae’n mewnforio nwyddau ohonynt, ac mae gwerth y fasnach mewn nwyddau yn £40.2m ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021.

Mae ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy gydol y trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol ar y ar y cyfan, ac mae swyddogion wedi gallu mynegi ein barn ar y cytundeb masnach gyda Seland Newydd a oedd yn hysbys dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym hefyd wedi bod yn trafod â rhanddeiliaid ar draws sectorau yng Nghymru drwy gydol y cyfnod negodi, er mwyn deall y cyfleoedd a'r risgiau y gallai cytundeb masnach eu cyflwyno ar gyfer diwydiannau Cymru.

Mae rhai manteision posibl i Gymru o'r cytundeb. Mae penodau'r Gwasanaethau yn y Cytundeb yn gadarnhaol ac yn cloi mynediad i'r farchnad. Bydd darpariaethau uchelgeisiol ar deithio busnes tymor byr (symudedd) yn ei gwneud yn haws ac yn gliriach i bobl fusnes ddarparu gwasanaethau yn Seland Newydd.  Mae'r bennod Ddigidol yn edrych tua’r dyfodol, yn gwahardd lleoleiddio data heb gyfiawnhad, yn datgysylltu hyn o fynediad i'r farchnad ac yn cydnabod pwysigrwydd technolegau datblygol.  Mae atodiad ar wahân ar gyfer gwasanaethau proffesiynol a chydnabod cymwysterau proffesiynol sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y ddau ar gyfer cynnal y fasnach gwasanaethau.

Fodd bynnag, rydym yn dal i bryderu am y patrwm parhaus o roi llawer mwy o fynediad di-dariff i wledydd i'n marchnad ar gyfer nwyddau amaethyddol. Mae'r Cwotâu Cyfradd Tariff (TRQs) y cytunwyd arnynt yn y cytundeb ar gyfer cig eidion, cig defaid a chynhyrchion llaeth yn gynnydd sylweddol i'r Cwotâu Cyfradd Tariff presennol. Er nad yw Seland Newydd yn defnyddio ei Chwotâu Cyfradd Tariff presennol ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd effaith ar gynhyrchwyr Cymru yn y dyfodol pe bai Seland Newydd yn dechrau llenwi ei chwotâu. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ein pryderon yn glir o ran yr effaith gronnol y gallai rhoi mwy o fynediad i'r farchnad mewn Cytundebau Masnach Rydd ei chael ar ein cynhyrchwyr ein hunain, a'r cynsail y gallai'r cytundebau hyn ei osod ar gyfer trafodaethau gyda phartneriaid masnachu eraill.

Bydd fy swyddogion yn craffu ar fanylion llawn y cytundeb a bydd asesiad sy'n canolbwyntio ar Gymru yn cael ei gyhoeddi pan fydd y gwaith dadansoddi hwn wedi'i gwblhau. Yn ogystal, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru i ddeall eu safbwyntiau ynghylch effaith y cytundeb.